Neidio i'r cynnwys

Ceri Cunnington

Oddi ar Wicipedia
Ceri Cunnington
Ganwyd1976 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHedd Wyn Edit this on Wikidata

Cerddor ac actor o ardal Meirionnydd yw Ifan Ceri Cunnington (ganed 1976), a fu yn brif leisydd y band Cymraeg Anweledig ers ei ffurfio yn 1991. Roedd yn rhan o gast y ffilm Hedd Wyn a enwebwyd am Oscar. Bu hefyd yn brif leisydd i'r band, Brython Shag ac yn ddiweddarach Twmffat.

Roedd yn un o sylfaenwyr y fenter cymdeithasol, Antur Stiniog yn 2007 a roedd yn Reolwr Cyffredinol y corff rhwng 2012 a 2015. Bu'n gweithio i Gymunedau yn Gyntaf ac elusen GISDA. Ers 2017 mae'n gweithio i Cwmni Bro Cymunedol Ffestiniog.[1]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Brodor o Flaenau Ffestiniog yw Ceri, sy' heddiw'n byw ym Mhenrhyndeudraeth (2011).

Yn 2021 fe'i gafwyd yn euog am yrru dan ddylanwad cyffuriau. Cafodd waharddiad o 24 mis rhag gyrru. Ym mis Mawrth 2025 plediodd yn euog i gyhuddiad o yfed a gyrru. Penderfynodd yr ynadon i osod gwaharddiad o 40 mis y tro hwn. Derbyniodd orchymyn cymunedol am 12 mis, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 20 diwrnod o ddyddiau adfer.[2]

Gyrfa deledu a ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "E3M | Building from the bottom up" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-08-08.[dolen farw]
  2. "Y cerddor Ceri Cunnington yn pledio'n euog i yfed a gyrru". newyddion.s4c.cymru. 31 Mawrth 2025. Cyrchwyd 8 Awst 2025.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.