Duncan Scott
Duncan Scott | |
---|---|
Ganwyd | Duncan William MacNaughton Scott 6 Mai 1997 Glasgow |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofiwr |
Taldra | 1.91 metr |
Pwysau | 168 pwys |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | London Roar |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Mae Duncan William MacNaughton Scott (ganwyd 6 Mai 1997) yn nofiwr o'r Alban. Mae wedi cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Aquatics y Byd FINA a'r Gemau Olympaidd, a'r Alban yng Ngemau'r Gymanwlad. Gwnaeth Scott hanes ar ôl ennill pedair medal - mwy nag unrhyw athletwr arall o Brydain mewn un Gemau Olympaidd yng Gemau Olympaidd yr Haf 2020 Ngemau Olympaidd Tokyo 2020.[1] Gan ennill tair medal aur yn y ras gyfnewid dull rhydd 100 m a 200 m, a ras gyfnewid dull rhydd 4 × 100 m) yng Ngemau Ewropeaidd 2015,[2] ef oedd yr athletwr Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn y Gemau.[2]
Cafodd Scott ei eni yn Alloa, yn fab i Joy Macnaughton a Nigel Scott.[1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Strathallan.[3]
Yn gyfan gwbl yn y pwll, mae Scott wedi nofio yn rhyngwladol mewn dull rhydd a glöyn byw 100 a 200 metr, a 200 metr medli unigol. Mae wedi ennill aur yng Gemau Olympaidd a dwy aur ym Mhencampwriaethau'r Byd mewn ras gyfnewid dull rhydd 4 x 200 metr, aur yn y ras gyfnewid medli 4 x 100 metr, yn ogystal ag arian ym Mhencampwriaethau a Gemau Olympaidd y Byd mewn ras dull rhydd a ras gyfnewid medli. Yn unigol, Scott oedd y pencampwr dull rhydd 100 metr yng Ngemau Ewropeaidd 2015 a Gemau'r Gymanwlad 2018, a'r pencampwr dull rhydd 200 metr yn yr un Gemau Ewropeaidd a Phencampwriaethau Aquatics Ewropeaidd 2018.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Duncan Scott's parents 'delighted' at Tokyo Olympics success". BBC Scotland (yn Saesneg). 3 Awst 2021. Cyrchwyd 5 Awst 2021.
- ↑ 2.0 2.1 Lewis, Jane (21 Gorffennaf 2015). "World Championships: Duncan Scott tipped to add to medal haul - BBC Sport" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 17 Chwefror 2020.
- ↑ Mitchell, Jenness (7 Chwefror 2017). "The best is yet to come for Alloa swimmer Scott". Stirling News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 July 2019. Cyrchwyd 17 Chwefror 2020.