Dugiaeth Cernyw
Enghraifft o'r canlynol | Duchies in England |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1337 |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Pennaeth y sefydliad | Dug Cernyw |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://duchyofcornwall.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o ddwy ddugiaeth frenhinol yn Lloegr (y llall yw Dugiaeth Caerhirfryn) yw Dugiaeth Cernyw. Mae mab hynaf y brenin neu'r frenhines sy'n teyrnasu yn etifeddu meddiant o'r ddugiaeth a theitl Dug Cernyw adeg ei eni neu pan fydd ei riant yn llwyddo i'r orsedd.
Wiliam Mounbatten-Windsor yw Dug Cernyw ar hyn o bryd.
Portffolio
[golygu | golygu cod]Mae'r ddugiaeth yn berchen ar 531.3 km² (205.1 milltir sgwâr), nid yn unig yng Nghernyw, ond ledled Lloegr a Chymru, gan gynnwys ffermydd, eiddo preswyl a masnachol, yn ogystal â phortffolio buddsoddi. Mae'n gweithredu nifer o fentrau masnachol, gan gynnwys rhentu bythynnod gwyliau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi mentro i ddatblygu trefi newydd Poundbury yn Dorset a Nansledan yng Nghernyw.
Mae'r llywodraeth yn ystyried bod y ddugiaeth yn gorff y Goron ac felly wedi'i heithrio rhag talu treth gorfforaeth. Heriwyd y statws gan werinaethwyr;[1] ac, er 1993, mae Dug Cernyw wedi talu treth incwm o'i wirfodd ar incwm y ddugiaeth.
Llwynywermod
[golygu | golygu cod]Mae'r hen dŷ fferm, Llwynywermod ger Llanymddyfri yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw. Roedd Charles Mountbatten-Windosr yn rhentu'r lle tan hâf 2023.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Public Accounts Committee: Written evidence from Republic"; www.parliament.uk; adalwyd 28 Medi 2021
- ↑ Sarah (2023-06-04). "King gives notice to quit his Welsh bolthole to the Duchy of Cornwall". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-14.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- "The Duchy of Cornwall", Gwefan Tywysog Cymru