Drogheda
Gwedd
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 40,956 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | Saint-Mandé, Kuşadası |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Louth |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 14.8 km² |
| Uwch y môr | 1 metr |
| Cyfesurynnau | 53.715°N 6.3525°W |
![]() | |
Tref yn Iwerddon yw Drogheda (Gwyddeleg: Droichead Átha[1]
ynganiad ) a leolir yn Swydd Louth, Gweriniaeth Iwerddon, ar lan Môr Iwerddon tua 45 km i'r gogledd o ddinas Dulyn. Mae'n borthladd pwysig.
Mae Afon Boyne yn llifo trwy Drogheda i aberu ym Môr Iwerddon. Ceir pont newydd dros yr afon ar gwr y dref sef Pont Lacy.
Dywedir i'r dref gael ei sefydlu gan y Llychlynwyr yn y flwyddyn 911 OC.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
Oriel
[golygu | golygu cod]- Drogheda - Droichead Átha
