Douz
Gwedd
| Math | bwrdeistref Tiwnisia |
|---|---|
| Poblogaeth | 47,182 |
| Cylchfa amser | UTC−01:00 |
| Gefeilldref/i | Isernia |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Saharan Tunisia |
| Sir | Kébili |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 33.4572°N 9.025°E |
| Cod post | 4260 |
![]() | |
Dinas yn ne Tiwnisia yw Douz neu Dūz (Arabeg: دوز) a adnabyddir fel "porth y Sahara." Mae'n gorwedd o amgylch gwerddon 27 km i'r de o ddinas Kébili a thua 100 km i'r gorllewin o ddinas Gabes yn nhalaith Kébili.
Lleolir y ddinas ar ymyl anialwch y Grand Erg Oriental ger y Chott Jerid. Yn y gorffennol bu'n arosfa pwysig ar y llwybrau carafan ar draws y Sahara oedd yn cysylltu Tiwnisia â Gorllewin Affrica. Y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth a thyfu dêts "diglat noor" yn y palmeraie (planhigfa palmwydd) sydd o gwmpas y werddon.
