Dotiau roc

Oddi ar Wicipedia

Mae dotiau roc (hefyd: röck döts neu metal umlaut) yn ddau ddot (didolnod/umlaut) sy'n cael eu defnyddio'n ddi-angen neu'n addurniadol dros lythrennau yn enwau bandiau roc caled/metel trwm, er enghraifft: Blue Öyster Cult, Queensrÿche, Motörhead, The Accüsed, Mötley Crüe a'r band parodi Spın̈al Tap. [1]

Gan nad oes marciau fel to bach, ddidolnod neu acenion diacritig eraill ar eiriau iaith Saesneg, mae'r defnydd o ddotiau yn cael eu defnyddio i gyfleu math o frandio egsotig, Sgandinafaidd neu gothig.

Fel arfer mae grwpiau roc trwm yn defnyddio'r ddau ddot gyda ffont steil canoloesol er mwyn cyfleu naws arswyd.

Mae'r ddau ddot addurniadol hefyd yn ymddangos ar enw nifer o frandiau poblogaidd fel y cwmni dillad 'Stüssy', pwdins 'Gü' a'r hufen iâ Americanaidd 'Häagen-Dazs'.

Roedd Blue Öyster Cult yn un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ddau ddot yn enw band roc caled yn 1970.

Yn gyffredinol, does dim bwriad i'r dotiau roc effeithio ar ynganiad enw'r band, yn wahanol i'r didolnod ar eiriau Cymraeg fel polisïau neu crëwr neu'r umlaut yn Almaeneg a'r ieithoedd Llychlyn ble mae'r llythrennau: ü, ä, ö, - yn cynrychioli sŵn gwahanol i: u, a, o. Pan ymwelodd Mötley Crüe â'r Almaen, dywedodd y canwr Vince Neil doedd y band ddim yn deall pam "roedd y torfeydd yn gweiddu, 'Mwtli Crwwh!'"[2]

Mae dotiau addurniadol wedi'u parodi yn y ffilm This Is Spın̈al Tap, dywedodd y rociwr ffuglennol David St. Hubbins (Michael McKean), Mae nhw fel pâr o lygaid. Ti'n edrych ar yr umlaut, ac mae nhw'n edrych nôl iti [3]

Rhai grwpiau gyda dotiau[golygu | golygu cod]

Mötley Crüe, Sweden, 2012
Hufen iâ "Häagen-Daas'
Hufen iâ "Häagen-Daas'
  • The Accüsed
  • Barbariön
  • Blue Öyster Cult
  • The Crüxshadows
  • Deströyer 666
  • Green Jellÿ
  • G̈r̈oẗus̈
  • Hüsker Dü
  • Maxïmo Park
  • Mötley Crüe
  • Motörhead
  • Queensrÿche
  • Spın̈al Tap
  • Stöner
  • Toilet Böys
  • Ünloco
  • Up 2 Më
  • Yächtley Crëw
  • Znöwhite
  • 2 Alivë

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]