Dolores Huerta
| Dolores Huerta | |
|---|---|
| Ganwyd | Fernán 10 Ebrill 1930 Dawson |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | undebwr llafur, ymgyrchydd, ymgyrchydd cymdeithasol, ymgyrchydd hawliau sifil |
| Gwobr/au | Gwobr Pedwar Rhyddid - Rhyddid rhag Eisiau, Eleanor Roosevelt Award for Human Rights, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall o Honor y Blaid Lafur, Neuadd Enwogion California, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Dyngarwr y Flwyddyn, Premio Ohtli, Radcliffe Medal, Eugene V. Debs Award |
Arweinydd llafur Americanaidd a gweithredwraig hawliau sifil yw Dolores Clara Fernández Huerta (ganwyd yn Dawson, Mecsico Newydd, 10 Ebrill 1930). Dolores Huerta a Cesar Chavez oedd cyd-sylfaenwyr y National Farmworkers Association, a ddaeth yn yr United Farm Workers (UFW) yn ddiweddarach. Bu Huerta'n cynorthwyo i drefnu streic grawnwin Delano yng Nghaliffornia yn 1965 ac yn arwain y trafodaethau ynghylch y cytundeb gweithwyr a grewyd yn dilyn y streic.[1]
Mae Huerta wedi derbyn nifer o anrhydeddau am ei gwaith cymunedol a'i heiriolaeth dros hawliau gweithwyr a menywod, gan gynnwys anrhydedd 'Outstanding American' Ymddiriedolaeth Eugene V. Debs, Anrhydedd Eleanor Roosevelt am Hawliau Sifil[2] a Medal Rhyddid yr Arlywydd.[3] Yn 1993, daeth yn yLatina gyntaf i'w chynnwys yn y National Women's Hall of Fame.[4][5]
Huerta wnaeth gyflwyno'r ymadrodd "Sí, se puede".[6] Fel model rôl i nifer yn y gymuned Latino, mae Huerta yn destun nifer o corridos (baledi) a murluniau.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Dolores Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Biography: Dolores Clara Fernandez Huerta". National Women's History Museum. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2018.
- ↑ "Remarks by the President at Presidential Medal of Freedom Ceremony". Obama White House Archives. 29 Mai 2012. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Meet the 20 MAKERS Inducted Into the National Women's Hall of Fame". Makers. 5 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2017. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Dolores Huerta". The Adelante Movement. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-20. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Sí Se Puede". Makers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mawrth 2017. Cyrchwyd 31 Mai 2017.
- ↑ "Dolores Huerta". Gale Group. Cyrchwyd 31 Mai 2017.