Dolly Llywelyn
Dolly Llywelyn | |
---|---|
Man preswyl | Cilgeti |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrach |
Gwrach neu 'wraig hysbys' chwedlonol oedd Dolly Llywelyn a oedd yn byw yng Nghilgeti, yn ne Sir Benfro, rhwng Dinbych-y-Pysgod ac Arberth. Galwyd hi wethiau'n 'Frenhines y Gwrachod'.
Ofnai pobl ardal Cilgeti Dolly hi. Yn ôl y chwedl, roedd hi’n arfer byw mewn bwthyn ar Lôn Rhosmari.
Un nos Sadwrn roedd hi ar ei ffordd adre o Farchnad Penfro â basged trwm o nwyddau. Roedd Mr a Mrs Lloyd yn mynd heibio mewn ceffyl a chart, a gofynnodd hi iddyn nhw i’w chludo hi yn ôl adre hefyd.
Gwrthodon nhw, trwy ddweud bod y cart eisioes yn rhy drwm. Gofynnodd hi eto ddwywaith, ond na oedd yr ateb bob tro. ‘I’r diafol a chi!’ oedd ei hymateb hi.
Yn ddiweddarach ar eu siwrne, cwympodd olwyn oddi ar y cart, a thaflwyd Mr a Mrs Lloyd oddi arno.
Roedd Mr Lloyd yn argyhoeddedig taw melltith a roddwyd arnyn nhw gan Dolly Llywelyn oedd hyn, ac aeth yn ôl ati gan weiddi, ‘Yr hen wrach! Os nad wyt ti’n dirwyn y felltith yma i ben, na’i dy ladd di!’
Gofynnodd Dolly iddo ei chludo adre unwaith yn rhagor, ac mi gytunodd. Dywedodd Dolly, ‘Boed i fendith Duw fod arnat ti’, ac aeth y tri ymlaen ar eu siwrne heb drafferth pellach.