Doberman Pinscher

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Doberman yn gorwedd ar y gwair.

Ci gwaith cryf a chyflym sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Doberman Pinscher neu yn syml Doberman. Datblygwyd yn niwedd y 19g gan Louis Doberman, cenelwr a gwyliwr nos yn nhref Apolda, Thüringen. Saif 61 i 71 cm ac mae'n pwyso 27 i 40 kg. Mae ganddo gôt lefn, fer o flew du, llwydlas, melynllwyd, neu goch gyda marciau rhytgoch ar y pen, gwddf, brest, bôn y gynffon, a'r traed. Ystyrir yn gi eofn, ffyddlon, a deallus, a defnyddir gan yr heddlu a'r fyddin ac fel gwarchotgi a chi tywys.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Doberman pinscher. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mai 2017.
Dog template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.