Dobermann
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Ci gwaith cryf a chyflym sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Dobermann a elwir hefyd yn Doberman Pinscher yn yr Unol Daleithiau a Chanada.[1] Datblygwyd yn niwedd y 19g gan Louis Dobermann, cenelwr a gwyliwr nos yn nhref Apolda, Thüringen. Saif 61 i 71 cm ac mae'n pwyso 27 i 40 kg. Mae ganddo gôt lefn, fer o flew du, llwydlas, melynllwyd, neu goch gyda marciau rhytgoch ar y pen, gwddf, brest, bôn y gynffon, a'r traed. Ystyrir yn gi eofn, ffyddlon, a deallus, a defnyddir gan yr heddlu a'r fyddin ac fel gwarchotgi a chi tywys.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "FCI Dobermann" (PDF). 07/04/18. Check date values in:
|date=
(help)