Diwrnod y Meirw
Gwedd
| Enghraifft o: | gŵyl grefyddol |
|---|---|
| Gwlad | |
| Gwladwriaeth | Mecsico |
| Gwefan | https://ich.unesco.org/en/RL/00054 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0drlh |
Gwyliau pan fo teuluoedd a ffrindiau'n gweddïo ac yn cofio am ffrindiau a theulu sydd wedi marw yw Diwrnod y Meirw. Caiff ei ddathlu ym Mecsico lle caiff ei ystyried yn ŵyl genedlaethol. Cynhelir yr ŵyl ar 1–2 Tachwedd, am ei fod yn gysylltiedig â'r ŵyl Gatholig Dydd Gŵyl yr Holl Saint (1 Tachwedd) a Gŵyl yr Holl Eneidiau (2 Tachwedd).
Fel rhan o'r traddodiadau sy'n gysylltiedig â'r gwyliau hyn, mae nhw'n adeiladu allorau preifat i gofio'r meirw gan ddefnyddio penglogau siwgr, Briallu Mair Mecsicanaidd, a hoff fwyd a diod y meirw. Ymwelir â'u beddau gyda'r rhoddion hyn. Mae Diwrnod y Meirw yn gyfnod o ddathlu pan fo gwledda a phartïon yn gyffredin ac mae'r gwyliau hyn yn debyg i Ŵyl yr Holl Saint.