Gŵyl yr Holl Eneidiau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Le Jour des morts gan William-Adolphe Bouguereau (1859).

Gŵyl Gristnogol flynyddol sydd yn cofio'r ffyddloniaid meirw, hynny yw y rhai sydd wedi mynd i burdan, yw Gŵyl yr Holl Eneidiau, Gŵyl y Meirw neu Ddygwyl y Meirw a ddethlir ar 2 Tachwedd. Hwn yw'r trydydd diwrnod yn nhridiau'r Calan Gaeaf yn y calendr Cristnogol, ar ôl Noswyl yr Holl Saint ar 31 Hydref a Gŵyl yr Holl Saint ar 1 Tachwedd.

Dethlir heddiw yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig, sydd yn dysgu bod Cristnogion a fedyddiwyd yn mynd i burdan os ydynt yn marw heb wneud iawn am bechodau bychain. Yn ôl yr athrawiaeth Gatholig, gall gweddïo dros eneidiau'r meirw hyn helpu i'w puro a'u gwneud yn barod am eu derbyn i'r nefoedd. Cynhelir offerennau dros y meirw, ac mae nifer o Gatholigion yn ymweld â beddau eu perthnasau a'u cyfeillion. Gall offeiriaid sydd yn cynnal yr offerennau wisgo'r lliw du i ddynodi galar, fioled am benyd, neu wyn i symboleiddio'r gobaith am yr atgyfodiad.

Sefydlwyd 2 Tachwedd yn ddiwrnod er cyfrwngddarostyngedigaeth gan Odilo, Abad Cluny, yn yr 11g. Erbyn diwedd y 13g yr oedd y dyddiad hwn yn gyffredin ar draws y Gristionogaeth.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) All Souls' Day (Christianity). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Tachwedd 2018.