Divergent
Enghraifft o: | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 18 Mawrth 2014, 10 Ebrill 2014, 20 Mawrth 2014, 21 Mawrth 2014, 26 Mawrth 2014 |
Genre | ffilm ddistopaidd, ffilm antur, ffilm llawn cyffro, ffilm ôl-apocalyptaidd, ffilm ramantus, ffilm a seiliwyd ar nofel, ffilm gyffro |
Cyfres | The Divergent Series |
Lleoliad y gwaith | Chicago |
Hyd | 139 munud |
Cyfarwyddwr | Neil Burger |
Cynhyrchydd/wyr | Douglas Wick, Lucy Fisher |
Cwmni cynhyrchu | Summit Entertainment, Red Wagon Entertainment |
Cyfansoddwr | Junkie XL |
Dosbarthydd | Lionsgate Home Entertainment, ProVideo, Lionsgate Films, Starz Entertainment Corp., Netflix, Xfinity Streampix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Alwin H. Küchler |
Gwefan | https://divergentthemovie.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Divergent yw ffilm sydd yn seiliedig ar lyfr gyda'r un enw, mae'r ffilm yn digwydd mewn dyfodol dystopaidd, cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Neil Burger a'i chynhyrchu gan Lucy Fisher, Pouya Shahbazian ac Douglas Wick. Mae'r ffilm yn cymered lle yn Chicago ôl apocalyptaidd lle mae poblogaeth yn cael ei rhannu i mewn i bedair gwahanol garfan, mae'r boblogaeth yn cael ei rhoi yn y carfanau yn seiliedig ar rinweddau dynol nhw. Mae Beatrice Prior yn cael ei rhybuddio bod hi'n Divergent a dydi hi ddim yn gallu cael ei derbyn i unrhyw un o'r garfan. Mae hi'n dysgu bod yna plot sinistr yn berwi yn Chicago.
Cast
[golygu | golygu cod]- Shailene Woodley fel Tris Prior
- Theo James fel Tobias "Four" Easton
- Miles Teller fel Peter Hayes
- Zoë Kravitz fel Christina
- Kate Winslet fel Jeanine Matthews
- Jai Courtney fel Eric Coulter
- Tony Goldwyn fel Andrew Prior
- Ansel Elgort fel Caleb Prior
- Maggie Quigley fel Tori Wu
- Mekhi Phifer fel Max
- Ahley Judd fel Natalie Prior
- Ray Stevenson fel Marcus Easton
Plot
[golygu | golygu cod]Mewn dinas ddyfodol yn Chicago dystopaidd, mae cymdeithas wedi'i rhannu'n bum carfan; Abnegation (Yr anhunanol), Amity (Yr heddychlon), Candor (Yr onest), Dauntless (Y dewr) ac Erudite (Y deallusol). Mae gweddill y boblogaeth yn di-garfan, sydd yn golygu bod nhw heb ddim statws neu fraint mewn cymdeithas. Pam mae unigolion yn troi yn 16 maen nhw'n mynd trwy brawf sydd yn defnyddio serwm i ddarganfod pa garfan dyllant nhw fynd i, ond mae pawb dall gyda'r opsiwn i ddewis pa garfan maen nhw eisiau yn ystod y Seremoni Dewis.[1] Yn y ffilm mae gan bob carfan rôl bwysig yn gymdeithas Chicago, mae Abnegation yn rhedeg cyfraith y ddinas, mae Dauntless yn amddiffyn y ddinas ac yn gwarchod y wal sydd yn mynd o gwmpas y ddinas, mae Erudite yn creu llawer o'r dechnoleg yn y ddinas ac yn wneud i fyny llawer o'r meddygon a gwyddonwyr yn y ddinas. Mae Amity yn creu'r bwyd i bob un o'r carfanau ac yn ffermio, yn olaf, mae Candor yn delio gyda materion gyfraith yn y ddinas trwy ddweud y gwir pob amser a gallu gweld pryd mae unigolyn yn dweud celwydd. Mae Tris Prior yn cael geni yn Abnegation, mae ei thad Andrew Prior yn rhan o gyngor sydd yn rhedeg Chicargo gydag arweinydd Abnegation Marcus Easton. Mae Tris yn cymered ei phrawf gyda thynnes Dauntless fel ei phroctor.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "THE FACTIONS". Cyrchwyd 2019-12-04.