Disg hyblyg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Disgiau hyblyg 8-modfedd, ​5 14-modfedd, a ​3 12-modfedd

Mae disg hyblyg, disg llipa neu disg lipa (Saesneg: floppy disk) yn fath o ddisg storio sydd wedi'i chreu o gyfrwng storio magnetig tenau a hyblyg, ac wedi'i selio mewn casyn plastig hirsgwar a'i leinio gyda deunydd sy'n gwaredu gronynnau llwch. Mae disgiau hyblyg yn cael eu darllen a'u hysgrifennu gan yrrwr disgiau hyblyg.

Roedd disgiau hyblyg, yn gyntaf fel cyfwng 8-inch (2008-inch (200 mm)  ac yna mewn meintiau 5 145 14-inch (133 mm) a 3 123 12-inch (90 mm), yn hollbresennol fel ffurf o storio a chyfnewid data o ganol y 1970au hyd at flynyddoedd cyntaf yr 21g.[1] Erbyn 2006 prin oedd y cyfrifiaduron newydd oedd yn cynnwys gyrrwr disg hyblyg; gellir defnyddio disgiau ​3 12-modfedd gyda gyrrwr disgiau hyblyg allanol sy'n cysylltu trwy USB, ond mae gyrrwyr USB ar gyfer disgiau ​5 14-modfedd, 8-modfedd, ac ansafonol yn brin, os nad yn anfodol. Defnyddir hen offer i ymdrin a'r fformatau hyn fel arfer.

Tra bod rhai defnyddiau o hyd i ddisgiau hyblyg, yn arbennig gyda hen offer cyfrifiadurol mewn meysydd diwydiannol, mae nhw bellach wedi'u disodli gan ddulliau storio data ar raddfa llawer mwy, fel ffyn cof USB, cardiau storio fflach, disgyrrwyr allanol, disgiau optegol, a rhwydweithiau cyfrifiadurol. 

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]