Dirgelwch Gallt y Ffrwd
Clawr fersiwn 2026. | |
| Dynodwyr |
|---|
Nofel dditectif gan E. Morgan Humphreys yw Dirgelwch Gallt y Ffrwd, a gyhoeddwyd yn 1938 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam. Er nad y nofel dditectif gyntaf yn Gymraeg, mae'n garreg filltir yn hanes datblygiad y genre honno yn Gymraeg.[1] Cyhoeddwyd y gyfrol o'r newydd yn 2026 gan Melin Bapur.[2]
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Y ditectif diymhongar, anghonfensiynol ond cyfrwys John Aubrey yw'r prif gymeriad. Cyflwynwyd y cymeriad i ddarllenwyr Cymraeg yn gyntaf yn y gyfrol Y Llaw Gudd (1924), stori a oedd yn torri tir newydd yn Gymraeg ar y pryd. Dirgelwch Gallt y Ffrwd yw'r ail o bedair stori am y ditectif; a'r hiraf a mwyaf uchelgeisiol ohonynt.
Cyfuniad o stori antur a stori ditectif yw'r llyfr. Ceir elfennau rhamantus a lliwgar ynddi ond mae'r cynllun yn dynn a llawn troeon annisgwyl ac mae'n cynnwys disgrifiadau cofiadwy o leoliadau dychmygol yng nghefn gwlad Cymru wrth i Aubrey ymchwilio a datrys dirgelwch lladrad diemwnt oddi ar Rajah Bundipor.
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Disgrifiwyd y stori fel "gorchest o gynllunio" gan y beirniad Bedwyr Lewis Jones:
- Gorchest o gynllunio sy'n ein rhwydo fel hyn. O bennod i bennod datblygir y dirgelwch fymryn bach, ychwanegir ato a'i gymhlethu, daw mymryn o oleuni, yna tro arall annisgwyl sy'n ein synnu fwy byth. Un munud yr ydym ar fin gweld popeth yn glir a'r funud nesaf mae'r dryswch yn dwysháu.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwenn a Gwyn Jones (Gwasg Gomer, 1983), tud. 51.
- ↑ Gwefan y cyhoeddwr. Adalwyd 14 Mai 2026.
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', tud. 51.
| Llyfrau E. Morgan Humphreys | |
|---|---|
| Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd | |