Ceulan y Llyn Du
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Iaith | Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Nofel Gymraeg gan E. Morgan Humphreys yw Ceulan y Llyn Du (teitl llawn: Ceulan y Llyn Du [:] Stori ddirgelwch). Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1944 yn y gyfres Llyfrau Pawb; ail-gyhoeddwyd y stori yn 2026 gan Melin Bapur mewn cyfrol oedd hefyd yn cynnwys dwy nofelig arall am John Aubrey, Y Llaw Gudd a Llofrudd yn y Chwarel.[1]
Stori dditectif i blant hŷn ond sy'n addas i oedolion hefyd yw'r nofel hon. Fel yn y nofel gynharach Dirgelwch Gallt y Ffrwd (1938), mae'n stori am griw o ladron gemau mewn lle tawel diarffordd. Mae'r "gweilch" hyn yn cael eu rhwystro a'u dal yn y diwedd gan yr Inspector John Aubrey, prif gymeriad Dirgelwch Gallt y Ffrwd ac sy'n ymddangos hefyd mewn nofel dditectif ddiweddarach, sef Llofrudd yn y Chwarel (1951).[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cyhoeddwr. Adalwyd 14-5-2026.
- ↑ Bedwyr Lewis Jones, 'Edward Morgan Humphreys', yn Dewiniaid Difyr, gol. Mairwen a Gwynn Jones (Gwasg Gomer, 1983).
| Llyfrau E. Morgan Humphreys | |
|---|---|
| Ceulan y Llyn Du | Dirgelwch Gallt y Ffrwd | Dirgelwch yr Anialwch | Yr Etifedd Coll | Y Llaw Gudd | Llofrudd yn y Chwarel | Rhwng Rhyfeloedd | |