Digain

Oddi ar Wicipedia
Digain
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Dydd gŵyl21 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadCystennin Edit this on Wikidata

Sant Celtaidd cynnar oedd Digain (fl. dechrau'r 5g efallai).[1] Dethlir ei ddydd gŵyl ar 21 Tachwedd, yn flynyddol.

Traddodiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad roedd Digain yn fab i Gustennin Gorneu, brenin Brythonaidd Dyfnaint. Os gwir hynny, mae'n bosibl ei fod yn frawd i Erbin ac felly'n ewythr i Geraint fab Erbin, un o arwyr y Tair Rhamant, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn am hynny.[2]

Digain a Llangernyw[golygu | golygu cod]

Dim ond un eglwys a gysylltir â Digain, sef eglwys plwyf Llangernyw (yn Sir Conwy). Yn ogystal â'r eglwys ceir Ffynnon Ddigain yng Nghoed Digain ger y pentref.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; argraffiad newydd 1991).