Opera dwy-act gan Wolfgang Amadeus Mozart yw'r Ffliwt Hud (Almaeneg: Die Zauberflöte) a gyfanosoddwyd yn Almaeneg ym 1791 gan Wolfgang Amadeus Mozart. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn y Freihaus-Theater auf der Wieden, Fienna, Awstria, ar 30 Medi 1791.
Un o operau enwocaf y byd opera yw hi. Canwyd y prif rôl gan Bryn Terfel a Wynne Evans ymhlith eraill. Yn yr opera ceir caneuon a llefaru, a gelwir y math hwn o opera yn Singspiel.[1]