Neidio i'r cynnwys

Derwen aur

Oddi ar Wicipedia
{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/Nodyn:Taxonomy/Fagaceae|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}
Derwen aur
Delwedd:Derwen aur.JPG
A golden oak tree
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol e
Unrecognized taxon (fix): Fagaceae
Genus: Quercus
Rhywogaeth: Q. alnifolia
Enw deuenwol
Quercus alnifolia
Poech
Cyfystyron[2]
  • Quercus alnifolia var. argentea Hadjik. & Hand
  • Quercus cypria Jaub. & Spach
Derwen aur
esiampl o dderwen aur
Dosbarthioad gwyddonolEdit this classification
Teyrnas: Plantae
Cytras: Tracheophytes
Cytras: Angiosperms
Cytras: Eudicots
Cytras: Rosids
Trefn: Fagales
Teulu: Fagaceae
Genws: Quercus
Is-genws: Quercus subg. Cerris
Adran: Quercus sect. Ilex
Rhywogaeth:
Q. alnifolia
Enw Binomiaidd
Quercus alnifolia

Cyfystyton[3]
  • Quercus alnifolia var. argentea Hadjik. & Hand
  • Quercus cypria Jaub. & Spach

Rhywogaeth o dderw bytholwyrdd yng Nghyprus yw Quercus alnifolia, a adwaenir yn gyffredin fel y dderwen aur . Mae ei enw Saesneg cyffredin yn cyfeirio at arwyneb isaf lliw euraidd ei ddail. Mae Quercus alnifolia yn perthyn i fflora endemig yr ynys ac mae wedi'i chyfyngu i ardal ddaearegol igneaidd Mynyddoedd Troodos . Ym mis Chwefror 2006, dewisodd senedd Cyprus y dderwen aur i fod yn goeden genedlaethol y wlad. [4]

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Mae'r dderwen aur yn lwyn bytholwyrdd canghennog neu goeden fechan hyd at 10 medr o uchder. Oherwydd ei maint byr (mewn perthynas â derw eraill) cyfeirir ati weithiau fel y gor-dderwen . [5]

Mae ei dail yn syml, o wyffurf i isgyfgrwn, 1.5-8cm o hyd, 1–7 cm o led, llyfn asgleiniog ar yr ochr uwch a manflewog ac euraidd neu frown trwchus oddi tano, gydag ymylon serraidd asennog dyrchafog. Mae'r deilgoesau yn gryf, 6-11mm blewog. Mae'r blodau'n unrywiol; melynwyrdd-wyrdd yw'r cathod gwryw sy'n ymledu neu'n glystyrau pendilio ar flaenau'r canghennau; mae'r blodau benywaidd yn geseiliol, unig neu mewn grwpiau o 2-3. Mae'r mes yn gul ac ar wyffurf neu is-silindraidd, fel arfer yn meinhau tuag at y gwaelod, 2–2.5 cm o hyd a 0.8–1.2 cm o led, gydag endocarp prennaidd a chibynnau gyda chennau adwyrol cryf. [6]

Tacsonomeg

[golygu | golygu cod]
Llwyn derw euraidd mewn ardal o goed pinwydd ger Karvounas, Mynyddoedd Troodos

Mae Quercus alnifolia yn perthyn i is-genws Cerris, adran <i id="mwNw">Ilex</i>, fel gyda llawer o rywogaethau derw bytholwyrdd Môr y Canoldir. [7] Disgrifiwyd croesrywiad achlysurol gyda derw kermes ( Quercus coccifera ). [8]

Dosbarthiad a chynefin

[golygu | golygu cod]

Mae Quercus alnifolia wedi'i gyfyngu i Troodos Massif, lle mae'n tyfu ar swbstrad daearegol igneaidd ar uchder o 400-1,800 medr . [9] Mae'n bodoli mewn cynefinoedd sych mewn cysylltiad â Pinus brutia neu'n ffurfio prysgwydd trwchus mewn cynefinoedd mesig, a nodweddir gan briddoedd coedwig dwfn. [10]

Ecoleg

[golygu | golygu cod]

Mae derw aur yn cynnig sefydlogrwydd pridd yn erbyn erydiad oherwydd ei allu i gytrefu llethrau caregog a chreigiog. Yn ei gynefin naturiol, Q. alnifolia yw'r rhywogaeth lydanddail bwysicaf sy'n ffurfio clystyrau pur neu gymysg, o fewn y coedwigoedd a ddominyddir gan gonifferau ( Pinus brutia, Pinus nigra ) yng Nghyprus.Mae clystyrau trwchus o Q. alnifolia mewn cynefinoedd mesic, yn addasu amodau lleithder y safle yn sylweddol ac yn ffurfio priddoedd coedwig gyda hwmws twym sy'n ffafrio bodolaeth rhywogaethau llysieuol sciophilous.

Fel aelodau eraill o'r genws derw, mae Q. alnifolia yn ffurfio cysylltiadau ectomicorhisol ag amrywiol ffyngau . Nododd astudiaeth ragarweiniol yn 2011 fod dros 80 o ffyngau mycorhisol yn gysylltiedig â'r dderwen aur; amcangyfrifir bod y cyfanswm, fodd bynnag, yn llawer uwch. [11]

Cadwraeth

[golygu | golygu cod]

Mae derw euraidd yn cael ei warchod gan gyfraith coedwigaeth Cyprus, tra bod y math o gynefin "Prysgwydd a llystyfiant coedwig isel Quercus alnifolia (9390)" yn gynefin â blaenoriaeth yn Ewrop (cyfarwyddeb 92/43/EEC). [12] Mae ehangder coedwigoedd mawr o'r rhywogaeth wedi'u cynnig i'w cynnwys yn rhwydwaith ecolegol Natura 2000 yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Gorener, V.; Beech, E (2017). "Quercus alnifolia". The IUCN Red List of Threatened Species (IUCN) 208: e.T194053A2295358. doi:10.2305/IUCN.UK.2017-3.RLTS.T194053A2295358.en. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "iucn" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  2. Nodyn:ThePlantList
  3. "Quercus alnifolia Poech".
  4. Leonidou, Leo (February 3, 2006). "A flower for Cyprus". Cyprus Mail. Cyrchwyd 2007-12-30.[dolen farw]
  5. Ashmore, Wendy; Arthur Bernard Knapp (1999). Archaeologies of Landscape: Contemporary Perspectives. Blackwell. t. 237. ISBN 0-631-21106-3.
  6. Meikle, R.D. (1985). Flora of Cyprus. London: Bentham Moxon Trust. tt. 1481–1482. ISBN 0-9504876-3-5.
  7. Denk, Thomas; Grimm, Guido W.; Manos, Paul S.; Deng, Min; Hipp, Andrew L. (2017). "Appendix 2.1: An updated infrageneric classification of the oaks" (xls). figshare. Cyrchwyd 2023-02-18.
  8. Neophytou, Ch.; Palli G.; Aravanopoulos F.A. (2007). "Morphological differentiation and hybridization between Quercus alnifolia Poech and Quercus coccifera L. (Fagaceae) in Cyprus". Silvae Genetica 56 (6): 271–277. doi:10.1515/sg-2007-0038. http://www.bfafh.de/inst2/sg-pdf/56_6_271.pdf. Adalwyd 2008-03-01.
  9. Merlo, Maurizio (2005). Valuing Mediterranean Forests: Towards Total Economic Value. CABI Publishing. t. 217. ISBN 0-85199-480-6.
  10. Barbéro, M.; Quézel P. (1979). "Contribution à l' étude des groupements forestiers de Chypre". Documents Phytosociologiques (IV): 9–34.
  11. Loizides, M. (2011).
  12. "Council Directive 92/43/EEC of 21 May 1992 on the conservation of natural habitats and of wild fauna and flora". EUR-Lex. European Union law. 1992-07-22. Cyrchwyd 2008-01-01.