Neidio i'r cynnwys

Defod lai'r pentagram

Oddi ar Wicipedia

Mae Defod Lai'r Pentagram (neu DLP) yn ddefod hud seremonïol a ddyfeisiwyd ac a ddefnyddir gan urdd wreiddiol y Wawr Aur sydd wedi dod yn un o brif ddefodau mewn ocwltiaeth fodern. Mae llawer yn ystyried y ddefod hon yn rhagarweiniad sylfaenol i unrhyw waith hudol arall - y ddefod hon oedd yr unig ddefod, ar wahân i ddefodau ynydu, a ddysgwyd i aelodau'r Wawr Aur cyn iddynt symud ymlaen i'r Urdd Fewnol.[1]

Mae dwy ffurf ar y ddefod, sef Defod Alltudio Lai'r Pentagram, a Defod Arddeisyf Lai'r Pentagram.

Disgrifiad a strwythur

[golygu | golygu cod]

Mae’r ddefod yn hynod ddeinamig, gan ddefnyddio ystumio, delweddu, ac ynganu geiriau pŵer penodol, gan gyfuno gweddi ac arddeisyf yn ogystal â chlirio a pharatoi lle ar gyfer gwaith hudol neu fyfyriol pellach.

Mae'r ddefod alltudio yn alltudio unrhyw fodau anhrefnus neu amhur o'r elfennau o gylch y swynwr trwy dynnu'r pentagramau yn yr awyr a thrwy enwau dwyfol penodol. Mae'r ddefod arddeisyf yn deisyf ar (galw ar) ffurfiau pur o'r elfennau.

Wedyn, mae galw ar yr archangylion sy'n rheoli'r elfennau er mwyn atgyfnerthu a gwarchod y cylch. Mae'r archangylion hyn wedi'u cysylltu â'r elfennau clasurol trwy symbolaeth astrolegol y pedwar creadur byw beiblaidd: "Mihangel yw'r "pen llew", Raffäel yw'r "pen dyn", Wriel yw'r "pen tarw", a Gabriel yw'r "pen eryr."[2] Mae'r symbolaeth hon yn cysylltu Mihangel ag arwydd astrolegol y Llew a'r elfen glasurol o dân, Raffäel â'r Dyfrwr a'r elfen o awyr, Wriel â'r Tarw a'r elfen o ddaear, a Gabriel â'r Sgorpion a'r elfen o ddŵr.

Mae un llyfr cyfoes ar hud seremonïol yn cynghori defnyddio’r fersiwn alltudio yn unig yn y misoedd cyntaf o ymarfer seremonïol:

The Golden Dawn manuscripts advocated performing the invoking form of this ritual in the morning and the banishing form at night. However, we feel that the beginning student needs to concentrate solely on the banishing form for a period of a few months, since beginners have a tendency to light up on the astral and unknowingly attract all manner of elementals and low levels of astral energies. Also, it is far more important to know how to banish than to invoke. Anyone can attract low spiritual energies. Getting rid of the same can be more difficult.[3]

Mae gan y ddefod wrthran sy'n arddeisyf, Defod Arddeisyf Lai'r Pentagram. Gyda'i gilydd, gelwir nhw weithiau yn Ddefod Lai'r Pentagram. Mae llawer o swynwyr seremonïol yn perfformio'r fersiwn alltudio bob dydd, ac mae rhai yn perfformio'r fersiynau alltudio ac arddeisyf ill ddau.

Y ddefod

[golygu | golygu cod]

Yn ei ffurfiau mwy cywrain, mae ymarferwyr modern weithiau'n cynnwys y canlynol:[4]

  • Allor yng nghanol lle'r ddefod, lle gosodir offerynnau sy'n cynrychioli'r pedair elfen glasurol
  • Gŵn seremonïol (megis gŵn tau) neu ddilledyn defodol addas arall, a wisgir gan y swynwr
  • Dagr defodol (megis yr "athamé") a ddefnyddir i ystumio i bwyntiau'r Groes Gabalistaidd, ac i dynnu'r pentagramau a'r cylch hud sy'n eu cysylltu.

Er hynny, yn aml ni ddefnyddir unrhyw offer neu ddillad arbennig.

Gweithdrefn

[golygu | golygu cod]
Yr elfennau ar bwyntiau'r pentagram

Mae Defod Alltudio Lai'r Pentagram yn nhraddodiad y Wawr Aur yn cynnwys tair prif ran.[4] Er bod arferion yn amrywio, mae amlinelliad cyffredinol Defod Alltudio Lai'r Pentagram isod: [5]

  1. Y Groes Gabalistaidd, sy'n creu croes serol yng nghorff y swynwr, gyda phwyntiau yn cyfateb i seffirot ar Bren y Fuchedd gan ddefnyddio mawlgan Gweddi'r Arglwydd. Wrth greu'r groes hon, mae'r swynwr yn dirgrynu (yn hytrach nag ond dweud yn uchel) y geiriau Hebraeg "Ateh, Malkuth, Ve-Geburah, Ve-Gedulah, Le-Olahm, Amen," wrth bwyntio at y talcen, y traed, yr ysgwydd dde, yr ysgwydd chwith, a'r galon, yn y drefn honno.
  2. Ffurfio'r Pentagramau, lle, gan ddechrau yn y dwyrain, mae pentagram alltudiol y ddaear (neu bentagram arddeisyfol ar gyfer y ddefod arddeisyf), sydd fel arfer yn cael ei ddelweddu fel ei fod mewn golau glas neu mewn tân, yn cael ei dynnu yn yr awyr ym mhob un o'r pedwar pwynt prifol, ynghyd â dirgrynu enw dwyfol ar Dduw: (YHVH (dwyrain, awyr), Adonai (de, tân), Eheieh (gorllewin, dŵr) ac AGLA (gogledd, daear). Mae'r rhan hon o'r ddefod i fod i alltudio neu ddeisyf ar y pedair elfen. Mae'r pentagramau wedi'u cysylltu gan gylch, sydd hefyd wedi'i dynnu yn yr awyr, sy'n cael ei gwblhau drwy ddychwelyd o'r pwynt gogleddol i'r dwyrain.
  3. Galwr ar yr Archangylion, lle bydd y swynwr yn sefyll ar ffurf groes ac yn deisyf ar bresenoldeb yr archangylion, gan eu delweddu yn y pedwar pwynt prifol: Raffäel (dwyrain), Gabriel (gorllewin), Mihangel (de), ac Wriel (gogledd). Yna, mae'r swynwr yn sefyll traed ar led ysgwydd ar wahân ac yn dweud amrywiad o "...o'm hamgylch mae'r pentagram yn fflamio, ac o'r tu fewn i mi mae'r seren chwe-phelydryn yn disgleirio." 
  4. Mae'r Groes Gabalistaidd yn cael ei hailadrodd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dyfyniadau

[golygu | golygu cod]

Gwaith a ddyfynnwyd

[golygu | golygu cod]
  • Cicero, Chic; Cicero, Sandra Tabatha (1995). Self-Initiation into the Golden Dawn Tradition: A Complete Curriculum of Study for Both the Solitary Magician and the Working Magical Group. Llewellyn Worldwide. ISBN 978-1-56718-136-4.
  • Cicero, Chic; Cicero, Sandra Tabatha (2003). The Essential Golden Dawn: An Introduction to High Magic. Llewellyn Worldwide. ISBN 978-0-7387-0310-7.
  • Kraig, Donald Michael (1998). Modern Magick: Eleven Lessons in the High Magickal Arts (arg. 2nd). Llewellyn Worldwide. ISBN 0-87542-324-8.
  • Scarborough, Samuel (Autumn 2003). "The Vibratory Formula and its Use in Daily Ritual Work". Journal of the Western Mystery Tradition 1. http://www.jwmt.org/v1n5/vibratoryform.html.
  • Stafford, Barbara Maria  (1979). Symbol and Myth: Humbert de Superville's Essay on Absolute Signs in Art. University of Delaware. ISBN 978-0874131208. no-break space character in |first= at position 14 (help)

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Nodyn:Thelema series