Defnyddiwr:Jason.nlw/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/2018-19 Adroddiad Blynyddol
Cyflwyniad
[golygu | golygu cod]Cefndir y prosiect
[golygu | golygu cod]Y tro cyntaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) gydweithio â Wikimedia UK oedd yn 2012/13 pan rannwyd nifer o ffotograffau LlGC drwy Comin i gefnogi prosiect Pedia Trefynwy. Enwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn GLAM y flwyddyn 2013. Yn ystod 2014 cynigiodd Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru fod Wicipediwr Preswyl yn cael ei benodi wedi’i gyllido ar y cyd. Yn dilyn trafodaethau a chyfweliadau mewnol, penodwyd Wicipediwr Preswyl o blith Staff y Llyfrgell ar gontract 12 mis. Dechreuodd y Wicipediwr ei swydd ar 19 Ionawr 2015 ac roedd y contract yn para tan 30 Ionawr 2016. Cafodd y prosiect ei ymestyn ymhellach tan 31 Gorffennaf 2017. Ar y pryd penododd y Llyfrgell “Wicimediwr Cenedlaethol” fel aelod parhaol o staff wedo’i gyllido’n llawn. Ar 1 Awst 2017 enwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn Bartner GLAM y Flwyddyn am, yr eildro. [1]
Wicimediwr Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Rôl y Wicimediwr Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cefnogi strategaeth hirdymor y Llyfrgell trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar Wicimedia. Mae hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau estyn allan rheolaidd, i geisio gwella ansawdd a swm cynnwys Wicipedia am Gymru a’i phobl yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill. Mae rhannu cynnwys digidol yn agored trwy Gomin Wicimedia a Wikidata hefyd yn weithgareddau craidd. Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio datblygu partneriaethau â sefydliadau diwylliannol ac addysgol eraill yng Nghymru a thu hwnt ac mae'n gweithredu fel eiriolwr mynediad agored o fewn y llyfrgell ac yng Nghymru’n gyffredinol. Mae deilydd y swydd hefyd yn cael ei annog i gael hyd i gyllid allanol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau penodol ac mae'n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau sy’n ceisio gwella ansawdd yr Wicipedia Cymraeg.[2]
Amcanion Strategol 2018 - 2019
[golygu | golygu cod]- Darpau prosiect WiciLlên wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru
- Cynnal Hacathon Cymraeg
- Cynnal o leiaf 4 digwyddiad golygathon
- Datblygu'r defnydd o Wikidata er mwyn cefnogi gwefan newydd y Bywgraffiadur Cymreig
- Parhau i rannu cynnwys digidol y llyfrgell ar Gomin Wicimedia a Wikidata
- Parhau i rannu data agored trwy Wikidata a chefnogi ysgolhaig preswyl Wikidata y llyfrgell
Crynodeb o weithgareddau a chanlyniadau
[golygu | golygu cod]Amcan Strategol 1
[golygu | golygu cod]“Gwella ansawdd a chynyddu nifer y testunau a gaiff eu cynnwys, sydd ar hyn o bryd heb eu cynrychioli’n ddigonol ar Wicipedia a phrosiectau Wicimedia eraill
Digwyddiadau Golygu
[golygu | golygu cod]- 10 Golygathon Wicipedia wedi’u cynnal
Mynychwyr | Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | Olygiadau |
---|---|---|---|
46 | 33 | 66 | 114 |
- 4 o ddigwyddiadau a gweithdai hyfforddi wedi’u cynnal
Mynychwyr |
---|
87 |
Hacathon
[golygu | golygu cod]Eleni, cynhaliodd y Wicimediwr Cenedlaethol ei Hacathoin cyntaf. Roedd y digwyddiad wedi'i leoli yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ac roedd yn canolbwyntio ar annog cyfranogwyr i ailddefnyddio data agored o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan gynnwys data a rannwyd trwy Wikidata. Ymhlith y canlyniadau roedd map google o leoliadau Doomsday, map gwres o trosedd y 19eg ganrif a data a drawsnewidiwyd yn gerddoriaeth.
Rhannu Cynnwys Digidol
[golygu | golygu cod]Roedd rhannu cynnwys digidol gyda phrosiectau Wicimedia yn nod allweddol i’r prosiect o’r dechrau. Mae ystadegau ynglŷn â nifer yr ymweliadau ag erthyglau sy’n cynnwys delweddau LlGC yn fesur allweddol o effaith a mynediad at ein casgliadau ar Gomin Wicimedia.
Mae Wicipedia yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol i ryddhau, rhannu, archwilio a gweld data’r Llyfrgell.
Delweddau
[golygu | golygu cod]Y deunydd mwyaf sylweddol a uwchlwythwyd eleni oedd Casgliad Gweithiau Celf Mewn Ffram sy’n cynnwys dros 600 o celfluniau olew o ddiddordeb pennaf o’r 19eg ganrif ym Mhrydain.[3] Yn ogystal â hyn, uwchlwythwyd nifer o gasgliadau llai a delweddau unigol i Gomin Wicimedia, gan cynnwys delweddau o llawysgrifau Peniarth. [4].
Ystadegau delweddau”
Images uploaded | Total views |
---|---|
998 | 198,963,470 |
2018 - 2019 Image Highlights | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Wikidata
[golygu | golygu cod]Mae diddordeb cynyddol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cyfrannu i Wikidata fel ffordd o rannu data’n agored mewn ffordd hygyrch, hawdd i ddefnyddwyr. Crëwyd eitemau ar gyfer cofnodion llongau Aberystwyth, gweithiau celf mewn ffram a casgliad Peniarth. Hefyd crëwyd eitemau gan Simon Cobb, Ysgolhaig Preswyl Wikidata y Llyfrgell, am llyfrau Cymraeg, chyhoeddwyr ac argraffwyr yn gysylltiedig â’r fasnach argraffu yng Nghymru. Mae’r llyfrgell wedi rhannu Metadata er mwyn gwneud hyn yn bosibl.
Ystadegau
Eitemau/Tudalennau a grëwyd | Golygwyd |
---|---|
4,271 | 181,038 |
Gweithio gyda Gwirfoddolwyr
[golygu | golygu cod]Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig cyfle i bob gwirfoddolwr sy’n ymuno â’i rhaglen wirfoddoli fewnol i weithio ar brosiectau Wicimedia. Mae nifer o Wirfoddolwyr yn ymuno â’r tîm am gyfnod byr. Myfyrwyr yw nifer ohonynt sy’n gwirfoddoli am ychydig o wythnosau’n unig bob blwyddyn. Hefyd mae gennym dîm craidd o wirfoddolwyr lleol sy’n gweithio ar brosiectau amrywiol i wella neu greu erthyglau Wicipedia. Mae cyfieithu erthyglau Saesneg i’r Gymraeg trwy ddefnyddio’r rhaglen cyfieithu cynnwys yn gynyddol boblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg sy’n ymuno â’n rhaglen. Cofnododd gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n gweithio ar brosiectau seiliedig ar Wicimedia 751o oriau gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf, gan greu dros 40 o erthyglau newydd.
Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr sy’n creu data ychwanegol ar gyfer casgliad cofnodion Aberystwyth Shipping sydd eisoes yn Wikidata. Maent yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol i greu data bywgraffyddol am gapteiniaid llongau ac ychwanegwyd y swp cyntaf o'r data i Wikidata eleni. [5]
Canlyniadau prosiectau gwirfoddoli
Pwnc y Prosiect | Cyfranogwyr | Erthyglau Newydd |
---|---|---|
Prosiect Cyfieithu i’r Gymraeg | 3 | 11 |
Prosiectau Amrywiol | 5 | 31 |
CYFANSWM | 6 | 42 |
Prosiect Wici-pobl
[golygu | golygu cod]Sicrhaodd y Wikimedian Cenedlaethol gyllid gan Llywodraeth Cymru er mwyn rhedeg prosiect Wici-Pobl, a ddyluniwyd i wella nifer yr erthyglau am pobl pwysig yn sylweddol. Rhedodd y prosiect rhwng Tachwedd 2018 a Mawrth 31ain 2019. Adeiladwyd y prosiect o amgylch rhyddhau 5000 o ddelweddau portread i Comin Wikimedia, gyda'r nod o sicrhau bod y data ar gael yn Gymraeg trwy Wikidata a gwella'r sylw ar Wicipedia am yr eisteddwyr a'r artistiaid a ddarlunnir, yn ogystal ag yswirio bod gan bobl amlwg eraill o Gymru erthyglau ar Wicipedia. Ar gyfer y brosiect yma buodd y Llyfrgell yn gweithio mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn i gyflwyno 4 digwyddiad golygu mewn ysgolion.
Cynlluniwyd y prosiect cyfan gan ddefnyddio'r 'Impact Playbook' newydd Europeana gyda'r nod o archwilio a dogfennu'r newidiadau, neu'r effaith, i wahanol grwpiau rhanddeiliaid o ddarparu gwahanol weithgareddau wedi'u seilio ar prosiectau Wikimedia sy'n canolbwyntio ar gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae yna adroddiad effaith llawn yma. . Isod ceir crynodeb o ganlyniadau’r prosiect.
Canlyniadau
Cyfranogwyr | Golygathonau | Erthyglau newydd | Labeli Wikidata Cymraeg |
---|---|---|---|
55 | 5 | 1445 | 7000 |
Cyfanswm gwelliannau
[golygu | golygu cod]Isod ceir y ffigurau am gyfanswm y cynnwys a ryddhawyd/grëwyd ar brosiectau Wicimedia yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys gwelliannau a wnaed fel rhan o brosiectau eilaidd a digwyddiadau a reolwyd gan y Wicimediwr Cenedlaethol.
Wikipedia
Cyfrifon newydd | Erthyglau newydd | |
---|---|---|
Cyfanswm | 33 | 1553 |
Comin Wicimedia
Delweddau a ryddhawyd | |
---|---|
Cyfanswm | 998 |
Wikidata
Eitemau data a grëwyd | |
---|---|
Cyfanswm | 4271 |
Amcan Strategol 2
[golygu | golygu cod]“Cefnogi datblygiad gwybodaeth agored yn y DU, trwy gynyddu dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o werth gwybodaeth agored ac argymell newidiadau ar lefel sefydliadol, sectoraidd a pholisi cyhoeddus.
Eiriolaeth
[golygu | golygu cod]Mae eiriolaeth yn cael ei hystyried yn elfen bwysig o rôl y Wicimediwr Cenedlaethol. Ac mae sylw drwy’r wasg, siarad yn gyhoeddus a rhwydweithio wedi arwain at greu partneriaethau pwysig a chydweithio, er enghraifft ymwneud agos y Llyfrgell â nifer o brosiectau Europeana. Mae hefyd wedi helpu i godi proffil Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel sefydliad blaengar, arloesol (gwerth i enw da).
Eleni, gwahoddwyd / derbyniwyd y Wikimedian Cenedlaethol cyfle i gyflwyno mewn mwy o ddigwyddiadau nag erioed, gydag 16 o gyflwyniadau neu weithdai wedi’u cyflwyno yn ystod y flwyddyn, ynghyd â sawl cyfweliad radio ac erthygl yn Slate Magazine, yn trafod y Wicipedia Cymru.
Eiriolaeth ac ystadegau cynnwys yn y cyfryngau
Cyfanswm | |
---|---|
Argraffiadau Twitter | 1,241,400 |
Blogiau | 6 |
Ymddangosiadau teledu a radio | 2 |
Y wasg brint ac ar-lein | 2 |
cyhoeddiadau | 0 |
Sgyrsiau/papurau a gyflwynwyd mewn digwyddiadau cyhoeddus | 12 |
Nifer y bobl sydd wedi mynychu cyflwyniadau | 538 |
Ymgysylltu â phartneriaid y Llyfrgell
[golygu | golygu cod]Mae’r cydweithio rhwng y llyfrgell â Wicimedia wedi denu diddordeb yn ein gwaith gan nifer o sefydliadau ac mae wedi cynnig nifer o gyfleoedd i gydweithio.
Llywodraeth Cymru
Yn sgil llwyddiant prosiect Wici-pop yn 2016-17 a brosiect WiciIechyd yn 2017-18 cydweithiodd y Llyfrgell Genedlaethol unwaith eto â Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Wici-Pobl. Ar hyn o bryd mae'r llyfrgell a Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau am ariannu dau brosiect arall. Byddai'r cyntaf, prosiect WikiLlên yn canolbwyntio ar rannu data a gwella cynnwys am Lenyddiaeth Gymru ac mae'r ail yn gais, yn dilyn trafodaethau gyda CBAC a'r adran Addysg, i rhedeg prosiect beilot addysg gyda'r nod o nodi a sicrhau ansawdd y cynnwys sy'n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio gan blant ysgol o wahanol oedrannau. Byddai'r ddau brosiect yn gweld y llyfrgell yn cydweithio efo Menter Iaith Môn, unwaith eto i gyflwyno digwyddiadau mewn ysgolion ac i ddogfennu arfer gorau ar gyfer y maes pwysig yma.
Europeana
Eleni gwahoddwyd pennaeth Mynediad Digidol y Llyfrgell, Dr Dafydd Tudur i helpu i ddatblygu’r Europeana Impact Play Book a’i nod oedd datblygu fframwaith i ddangos effeithiau prosiectau treftadaeth ddiwylliannol. Hefyd dewiswyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o 5 sefydliad i brofi rhannau cyntaf y playbook a chytunwyd i ddefnyddio gweithgareddau Wicimedia’r Llyfrgell fel sail i’r astudiaeth achos. Mae'r gwaith yma wedi eu cefnogi a hyrrwyddo gan Europeana a bydd gwaith y llyfrgell yn ymddangos fel ystudiaerth achos yn yr ail cyfrol o'r Impact Playbook sydd ar fin cyhoeddu.
Menter Iaith
Mae Menter Iaith yn sefydliad yn y gymuned sy’n gweithio i godi proffil yr iaith Gymraeg mewn ardal benodol. Er enghraifft mae Menter Môn yn ariannu a chefnogi Aaron Morris fel Wicipediwr Preswyl sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg mewn addysg.
Yn ystod y flwyddyn mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi cael nifer o drafodaethau lefel uchel gyda rheolwyr Menter iaith ynglŷn â hyfforddi staff lleol ar gyfer golygu Wicipedia, a chynnal cyfarfodydd Golygathon rheolaidd. Mae’r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ac mae nifer o grwpiau Menter lleol yn cynllunio, neu o leiaf yn ystyried cynnal digwyddiadau Wicipedia. Mae'r Wicimediwr Cenedlaethol yn parhau i datblygu cysylltiadau agos efo'r Wicipediawr Preswyl Menter Iaith Môn sydd hefyd yn cael llwyddaitn mewn codi diddordeb yn prosiectau Wici yn y Mentrau.
CBAC
CBAC yw’r corff arholi mwyaf yng Nghymru ac mae'n cynhyrchu nifer o ddeunyddiau dysgu Cymraeg. Cydweithiodd y Wicimediwr Cenedlaethol gyda CBAC yn y prosiect Wici-Iechyd a rhyddhawyd nifer o adnoddau dysgu digidol ar drwydded agored. Yn dilyn nifer gyfarfodydd eleni cytunwyd y byddai CBAC yn cefnogi ein cais i rhedeg prosiect Peilot yn y maes addysg trwy rhyddhau mwy o'u hadnoddau dysgu digidol ar trwydded agored yn ol y galw. Bydd hyn yn helpu plant i hastudio a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar Wicipedia.
CILIP
yn ystod y flwyddyn, parhaodd y Wikimedian Cenedlaethol i gefnogi defnydd CILIP o Wikidata i rannu data am Lyfrgelloedd Cymru. Cynhaliwyd gweithdai Wikidata mewn digwyddiad Libraries Hacked i annog llyfrgellwyr i gymryd perchnogaeth o'u data, ac mae map Wikidata bellach yn ymddangos ar dudalen gartref Gwefan Llyfrgelloedd Cymru. Mae trafodaethau hefyd ar y gweill ynglŷn â chynnal gweithdai Wikidata ar gyfer llyfrgellwyr metadata, a chydweithio ar digwyddiadau Wicipedia. Gwahoddwyd y Wikimedian Cenedlaethol hefyd i siarad yng nghynhadledd flynyddol CILIP yr Alban yn Aberdeen.
Amcan Strategol 3
[golygu | golygu cod]“Cefnogi’r defnydd o brosiectau Wicimedia fel cyfryngau pwysig ar gyfer addysg a dysgu yn y DU”
Cynllun Ysgolhaig Preswyl
[golygu | golygu cod]Mae Simon Cobb, Ysgolhaig Preswyl Wikidata y Llyfrgell Genedlaethol yn parhau i weithio’n agos â’r llyfrgell i rannu ei data ar drwydded agored. Mae gan Simon canoedd o miloedd o olygiadau i Wikidata eleni gan cynnwys tua 2000 eitem newydd am llyfrau o'r Llyfrgell. Mae Simon wedi gwneud llawer o gwaith i paratoi data catalog am llyfrau Cymreig ar gyfer Wikidata ac y gobaith yw bydd modd cyflogi Simon i gwneud rhagor o'r gwaith yma fel rhan o brosiect WiciLlên
Mae gwaith Simon yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:
- Gwella data strwythedig am casgliadau y Llyfrgell ar Comin.
- Creu tua 2000 o eitemau am llyfrau Cymreig
Allbwn Ysgolhaig Preswyl Wikidata
Eitemau Wikidata a grëwyd | Golygiadau Wikidata |
---|---|
2148 | tua 100,000 |
Addysg Uwch
[golygu | golygu cod]Mae gwaith wedi parhau gyda’r cwrs astudio Cyfieithu Proffesiynol Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhoddwyd sgwrs i’r holl fyfyrwyr ar y cwrs a chafodd 2 myfyriwr gymorth 1 i 1 i ddefnyddio rhaglen cyfieithu cynnwys i gyfieithu erthyglau fel rhan o aseiniad. Mae trafodaethau ar y gweill i gynnal digwyddiad cyfieithu gyda’r holl fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn nesaf. Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr i wneud yr aseiniad Wicipedia, a gallu darbwyllo arweinwyr y cwrs i integreiddio Wicipedia’n rhan greiddiol o’r cwrs.
Mae aelodau o'r Wales Higher Education Libraries Forum (WHELF) wedi dangos dissordeb mewn prosiectau Wikimedia, yn arbennig y defnydd o Wikidata i rhannu data ymchwil. Mae cyflwyniadau a gweithdai wedi digwydd eleni efo aelodau WHELF yn gogledd Cymru a mae na trefniadau ar y gweill er mwyn cynnal digwyddiadau tebig efo eoldau yn y de.
Pwyso a Mesur
[golygu | golygu cod]Mae 2018-19 wedi bod yn flwyddyn brysur, gan cynnwys cyflwani prosiect Wici-Pobl gan defnyddio'r Impact Playbook, rhannu canoedd o delweddau digidol i Comin, parhau i ymchwilio'r pwer o Wikidata fel fordd o cynnal a darganfod data agored. Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi cynnal 6 digwyddiad Golygathon a wedi cydweithio ar 4 arall. Fodd bynnag mae'n amlwg bod gweithgareddau’r llyfrgell o ran estyn allan, ymgysylltu â’r gymuned a data cysylltiedig yn cael cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau diwylliannol eraill, a bellach mae’n cael ei hystyried gan nifer fel arloeswr diolch i’w hymrwymiad i gydweithio â Wicimedia.
Mae cefnogaeth y llyfrgell wrth embedio Wikidata i mewn i gwefan newydd y Bywgraffiadur yn dangos eu ymrwyniad i technolegau sy'n dod i'r amlwg a thueddiadau technoleg. Bydd cyflwyno llinell amser yn seiliedig ar Wikidata yn ddiweddarach eleni nid yn unig yn ategu'r wefan bresennol ond hefyd yn gweithio fel offeryn eirioli, i ddangos manteision rhannu ac ailddefnyddio Wikidata.
Mae WMUK wedi bod yn gefnogol iawn i holl weithgareddau Wicimedia yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae'n parhau i fod yn bartner gwerthfawr yn y cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wicimedia.
Cynlluniau ar gyfer flwyddyn nesaf
[golygu | golygu cod]Dros y flwyddyn i ddod, bydd y Wikimedian Cenedlaethol yn adeiladu ymhellach yn yr ardaloedd lle gwelwyd y llwyddiant mwyaf, trwy rannu mwy o ddata llyfrgell fel data cysylltiedig, darparu mynediad agored i fwy o'i chasgliadau, datblygu rhaglen Wikipedia mewn addysg a pharhau efo gwaith estyn allan. Rhagwelir y gellir sicrhau cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau iaith Cymraeg, a bydd ffocws parhaus ar ddangos effaith prosiectau a mentrau y gorffennol a'r dyfodol, gan defnyddio Impact Playbook Europeana. Bydd prosiect WikiLlên yn ganolbwynt, ynghyd â digwyddiadau allgymorth fel edit-a-thons ac ail Hackathon blynyddol sy'n canolbwyntio ar wella cynnwys sy'n ymwneud â chasgliadau a rannwyd yn ddiweddar â Wikimedia. Bydd cwblhau llinell amser y Bywgraffiadur Cymraeg hefyd yn ganolbwynt dros y misoedd nesaf, ynghyd â thrafodaethau mewnol ynghylch integreiddio Wikidata i'n platfform torf ac archwilio'r posibiliadau o amgylch defnyddio Wikibase i ddatblygu llyfrgell asedau digidol.
Deunydd cyfeirio
[golygu | golygu cod]- ↑ "Congratulations to our Wikimedians Of The Year!". the Wikimedia UK blog! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
- ↑ "The National Library of Wales appoint UK's first permanent Wikimedian | The National Library of Wales". www.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
- ↑ "Welsh Portrait Collection". National Library of Wales Blog (yn Saesneg). 2018-06-27. Cyrchwyd 2018-07-27.
- ↑ Evans, Jason (11 June 2019). "Treasured Manuscript collection gets the Wikidata Treatment". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. National Library of Wales. Cyrchwyd 3 September 2019.
- ↑ Evans, Jason (19 Medi 2018). "Cofnodion Llongau Aberystwyth". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 3 Medi 2019.
Troednodiadau
[golygu | golygu cod]- Casglwyd metrigau defnydd delweddau trwy ddefnyddio Baglama2 and GLAMorous
- Casglwyd ffigurau creu/golygu eitemau Wikidata ac Erthyglau trwy ddefnyddio Wikimetrics
- Mae ystadegau argraffiadau Twitter yn dod o Twitter Analytics
- Cofnodwyd metrigau eraill yn fewnol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.