Defnyddiwr:Jason.nlw/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/2017-18 Adroddiad Blynyddol

Oddi ar Wicipedia

Cyflwyniad[golygu | golygu cod]

Cefndir y prosiect[golygu | golygu cod]

Y tro cyntaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) gydweithio â Wikimedia UK oedd yn 2012/13 pan rannwyd nifer o ffotograffau LlGC drwy Comin i gefnogi prosiect Pedia Trefynwy. Enwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn GLAM y flwyddyn 2013. Yn ystod 2014 cynigiodd Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru fod Wicipediwr Preswyl yn cael ei benodi wedi’i gyllido ar y cyd. Yn dilyn trafodaethau a chyfweliadau mewnol, penodwyd Wicipediwr Preswyl o blith Staff y Llyfrgell ar gontract 12 mis. Dechreuodd y Wicipediwr ei swydd ar 19 Ionawr 2015 ac roedd y contract yn para tan 30 Ionawr 2016. Cafodd y prosiect ei ymestyn ymhellach tan 31 Gorffennaf 2017. Ar y pryd penododd y Llyfrgell “Wicimediwr Cenedlaethol” fel aelod parhaol o staff wedo’i gyllido’n llawn. Ar 1 Awst 2017 enwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn Bartner GLAM y Flwyddyn am, yr eildro. [1]

Wicimediwr Cenedlaethol[golygu | golygu cod]

Rôl y Wicimediwr Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cefnogi strategaeth hirdymor y Llyfrgell trwy weithgareddau sy’n seiliedig ar Wicimedia. Mae hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau estyn allan rheolaidd, i geisio gwella ansawdd a swm cynnwys Wicipedia am Gymru a’i phobl yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill. Mae rhannu cynnwys digidol yn agored trwy Gomin Wicimedia a Wikidata hefyd yn weithgareddau craidd. Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio datblygu partneriaethau â sefydliadau diwylliannol ac addysgol eraill yng Nghymru a thu hwnt ac mae'n gweithredu fel eiriolwr mynediad agored o fewn y llyfrgell ac yng Nghymru’n gyffredinol. Mae deilydd y swydd hefyd yn cael ei annog i gael hyd i gyllid allanol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau penodol ac mae'n parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau sy’n ceisio gwella ansawdd yr Wicipedia Cymraeg.[2]

Amcanion Strategol 2017 - 2018[golygu | golygu cod]

  • Darpau prosiect Wici-Iechyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru
  • Cynnal Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018, cynhadledd ieithoedd Wicipedia
  • Cynnal o leiaf 4 digwyddiad golygathon
  • Parhau i rannu cynnwys digidol y llyfrgell ar Gomin Wicimedia
  • Parhau i rannu data agored trwy Wikidata a chefnogi ysgolhaig preswyl Wikidata y llyfrgell

Crynodeb o weithgareddau a chanlyniadau[golygu | golygu cod]

Amcan Strategol 1[golygu | golygu cod]

“Gwella ansawdd a chynyddu nifer y testunau a gaiff eu cynnwys, sydd ar hyn o bryd heb eu cynrychioli’n ddigonol ar Wicipedia a phrosiectau Wicimedia eraill

Digwyddiadau Golygu[golygu | golygu cod]

  • 10 Golygathon Wicipedia wedi’u cynnal
Mynychwyr Cyfrifon newydd Erthyglau newydd Olygiadau
91 61 304 1881
  • 4 o ddigwyddiadau a gweithdai hyfforddi wedi’u cynnal
Mynychwyr
31

Rhannu Cynnwys Digidol[golygu | golygu cod]

Roedd rhannu cynnwys digidol gyda phrosiectau Wicimedia yn nod allweddol i’r prosiect o’r dechrau. Mae ystadegau ynglŷn â nifer yr ymweliadau ag erthyglau sy’n cynnwys delweddau LlGC yn fesur allweddol o effaith a mynediad at ein casgliadau ar Gomin Wicimedia.

Mae Wicipedia yn cael ei ddefnyddio’n gynyddol i ryddhau, rhannu, archwilio a gweld data’r Llyfrgell.

Delweddau[golygu | golygu cod]

Y deunydd mwyaf sylweddol a uwchlwythwyd eleni oedd Casgliad Portreadau Cymru sy’n cynnwys bron i 5000 o bortreadau cyfrwng cymysg o ddiddordeb pennaf o’r 19eg ganrif ym Mhrydain.[3] Yn ogystal â hyn, uwchlwythwyd nifer o gasgliadau llai a delweddau unigol i Gomin Wicimedia.

Ystadegau delweddau”

Images uploaded Total views
5386 159,109,374
2017 - 2018 uchelbwyntiau delweddau
Dros 300 o cloriau cylchgronnau Cymru wedi lwytho.
Dros 300 o cloriau cylchgronnau Cymru wedi lwytho. 
Cagliad Portreadau (5000 o delwedddau) yw'r prif casgliad sydd wedi rhannu eleni.
Cagliad Portreadau (5000 o delwedddau) yw'r prif casgliad sydd wedi rhannu eleni. 
Llwythwyd nifer o Lyfrau lluniadu fel rhan o cydweithio efo'r Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Llwythwyd nifer o Lyfrau lluniadu fel rhan o cydweithio efo'r Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru 
Delwedd arall o gasgliad portreadau Cymru
Delwedd arall o gasgliad portreadau Cymru 
Delwedd o un o'r Lyfrau Llluniadu sydd yn dangos bywyd Cymreig, sydd nawr ar Comin.
Delwedd o un o'r Lyfrau Llluniadu sydd yn dangos bywyd Cymreig, sydd nawr ar Comin. 
Wikidata[golygu | golygu cod]

Mae diddordeb cynyddol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cyfrannu i Wikidata fel ffordd o rannu data’n agored mewn ffordd hygyrch, hawdd i ddefnyddwyr. Hefyd crëwyd eitemau gan y Wicimediwr Cenedlaethol a gan Simon Cobb, Ysgolhaig Preswyl Wikidata y Llyfrgell, ar gyfer portreadau Cymreig a gweithiau celf eraill ar Comin, cylchgronau Cymreig a chyhoeddwyr ac argraffwyr yn gysylltiedig â’r fasnach argraffu yng Nghymru. Mae’r llyfrgell wedi rhannu Metadata er mwyn gwneud hyn yn bosibl.

Ystadegau

Eitemau/Tudalennau a grëwyd Golygwyd
8941 342,534

Gweithio gyda Gwirfoddolwyr[golygu | golygu cod]

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnig cyfle i bob gwirfoddolwr sy’n ymuno â’i rhaglen wirfoddoli fewnol i weithio ar brosiectau Wicimedia. Mae nifer o Wirfoddolwyr yn ymuno â’r tîm am gyfnod byr. Myfyrwyr yw nifer ohonynt sy’n gwirfoddoli am ychydig o wythnosau’n unig bob blwyddyn. Hefyd mae gennym dîm craidd o wirfoddolwyr lleol sy’n gweithio ar brosiectau amrywiol i wella neu greu erthyglau Wicipedia. Mae cyfieithu erthyglau Saesneg i’r Gymraeg trwy ddefnyddio’r rhaglen cyfieithu cynnwys yn gynyddol boblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg sy’n ymuno â’n rhaglen. Cofnododd gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n gweithio ar brosiectau seiliedig ar Wicimedia 1021o oriau gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf, gan greu dros 100 o erthyglau newydd.

Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr sy’n creu data ychwanegol ar gyfer casgliad cofnodion Aberystwyth Shipping sydd eisoes yn Wikidata. Maent yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol i greu data bywgraffyddol am gapteiniaid llongau a bydd y data hwn yn cael ei ychwanegu i Wikidata wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Canlyniadau prosiectau gwirfoddoli

Pwnc y Prosiect Cyfranogwyr Erthyglau Newydd
Prosiect Cylchgronau Cymru 2 34
Prosiect Cyfieithu i’r Gymraeg 8 65
Prosiectau Amrywiol 5 8
CYFANSWM 15 107

Prosiect Wici-Iechyd[golygu | golygu cod]

Ystadegau prosiect Wici-Iechyd

Sicrhaodd y Wicimediwr Cenedlaethol £40,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynnal y prosiect Wici-Iechyd. Nod y prosiect oedd gwella’n sylweddol nifer yr erthyglau pwysig yn ymwneud ag iechyd sydd ar y Wicipedia Cymraeg. Cynhaliwyd y prosiect rhwng Awst 2017 a 31 Mawrth 2018.[4]

Mae adroddiad llawn ar ganlyniadau’r prosiect ar here. . Isod ceir crynodeb o ganlyniadau’r prosiect.

Canlyniadau

Cyfranogwyr Golygathonau Erthyglau newydd Labeli Wikidata Cymraeg
45 3 4700 6472

Cyfanswm gwelliannau[golygu | golygu cod]

Isod ceir y ffigurau am gyfanswm y cynnwys a ryddhawyd/grëwyd ar brosiectau Wicimedia yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys gwelliannau a wnaed fel rhan o brosiectau eilaidd a digwyddiadau a reolwyd gan y Wicimediwr Cenedlaethol.

Wikipedia

Cyfrifon newydd Erthyglau newydd
Cyfanswm 61 5151

Comin Wicimedia

Delweddau a ryddhawyd
Cyfanswm 5386

Wikidata

Eitemau data a grëwyd
Cyfanswm 5762

Amcan Strategol 2[golygu | golygu cod]

“Cefnogi datblygiad gwybodaeth agored yn y DU, trwy gynyddu dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o werth gwybodaeth agored ac argymell newidiadau ar lefel sefydliadol, sectoraidd a pholisi cyhoeddus.

Eiriolaeth[golygu | golygu cod]

Cyfranodd y Wicimediwr Cenedlaethol penawd i'r cyfrol yma

Mae eiriolaeth yn cael ei hystyried yn elfen bwysig o rôl y Wicimediwr Cenedlaethol. Ac mae sylw drwy’r wasg, siarad yn gyhoeddus a rhwydweithio wedi arwain at greu partneriaethau pwysig a chydweithio, er enghraifft ymwneud agos y Llyfrgell â nifer o brosiectau Europeana. Mae hefyd wedi helpu i godi proffil Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel sefydliad blaengar, arloesol (gwerth i enw da).

Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi cyfrannu at gyhoeddiad dan y teitl ‘Open Licensing for Cultural Heritage’ a olygwyd gan Gill Hamilton a Fred Saunderson yn ogystal â bod yn gydawdur pennod ar annog gwirfoddolwyr i weithio mewn llyfrgelloedd gydag Alex Stinson o Sefydliad Wikimedia, ar gyfer 'Leveraging Wikipedia' dan olygyddiaeth Merrilee Proffitt.[5]

Eiriolaeth ac ystadegau cynnwys yn y cyfryngau

Cyfanswm
Argraffiadau Twitter 1,086,800
Blogiau 12
Ymddangosiadau teledu a radio 5
Y wasg brint ac ar-lein 6
cyhoeddiadau 2
Sgyrsiau/papurau a gyflwynwyd mewn digwyddiadau cyhoeddus 8
Nifer y bobl sydd wedi mynychu cyflwyniadau 385
Ymgysylltu â phartneriaid y Llyfrgell[golygu | golygu cod]
Golygathon Wicipedia ar y cyd efo Menter iaith Caerfyrddyn fel rhan o brosiect Wici-Iechyd â arianir gan Llywodraeth Cymru 2018

Mae’r cydweithio rhwng y llyfrgell â Wicimedia wedi denu diddordeb yn ein gwaith gan nifer o sefydliadau ac mae wedi cynnig nifer o gyfleoedd i gydweithio.

Llywodraeth Cymru

Yn sgil llwyddiant prosiectWici-pop yn 2016-17 cydweithiodd y Llyfrgell Genedlaethol unwaith eto â Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Wici-Iechyd, ac ar hyn o bryd mae'n trafod sut gall y Llywodraeth gefnogi prosiectau yn y dyfodol i wella cynnwys Cymraeg ar Wicipedia. Yn ystod y flwyddyn mae’r adran Gymraeg hefyd wedi rhoi grantiau i Wici-Caerdydd er mwyn ymestyn eu gweithgareddau ac mae wedi cefnogi rhaglen estyn allan addysg Wici-Môn dan arweiniad Aaron Morris. Hefyd bu cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol WMUK yng Ngorffennaf 2018.

Europeana

Eleni gwahoddwyd pennaeth Mynediad Digidol y Llyfrgell, Dr Dafydd Tudur i helpu i ddatblygu’r Europeana Impact Play Book a’i nod oedd datblygu fframwaith i ddangos effeithiau prosiectau treftadaeth ddiwylliannol. Hefyd dewiswyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o 5 sefydliad i brofi rhannau cyntaf y playbook a chytunwyd i ddefnyddio gweithgareddau Wicimedia’r Llyfrgell fel sail i’r astudiaeth achos. Mae’r gwaith hwn ar y gweill a bydd yn cael ei gwblhau yn 2028-2019. Hefyd gwahoddwyd y Wicimediwr Cenedlaethol i roi cyflwyniad yng Nghynhadledd Dechnegol Europeana yn Rotterdam, lle siaradodd am waith y llyfrgell gyda Wikidata a data diwylliannol.[6]

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn cymryd rhan ym mhrosiect Europeana Migration ac mae wedi cytuno i gynnal digwyddiad Wiki yn ymwneud â mudo yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Menter Iaith

Mae Menter Iaith yn sefydliad yn y gymuned sy’n gweithio i godi proffil yr iaith Gymraeg mewn ardal benodol. Er enghraifft mae Menter Môn yn ariannu a chefnogi Aaron Morris fel Wicipediwr Preswyl sy’n canolbwyntio ar y Gymraeg mewn addysg.

[[File:Wikipedia Session Cardiff Univ 4.jpg|thumb|Golygathon efo'r uned Casgliadau Arbennig, Prifysgol Caerdydd fel rhan o brosiect GW4] Yn ystod y flwyddyn mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi cael nifer o drafodaethau lefel uchel gyda rheolwyr Menter iaith ynglŷn â hyfforddi staff lleol ar gyfer golygu Wicipedia, a chynnal cyfarfodydd Golygathon rheolaidd. Mae’r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol ac mae nifer o grwpiau Menter lleol yn cynllunio, neu o leiaf yn ystyried cynnal digwyddiadau Wicipedia. Rhoddodd y Wicimediwr Cenedlaethol gyflwyniad i Wicipedia yng nghynhadledd flynyddol Menter Iaith yng Nghaerfyrddin ar olygathon Wici-Iechyd. Hefyd cynhaliodd weithdy golygu gyda grŵp o staff Menter iaith a gwirfoddolwyr yn y Drenewydd. Gobeithio y gall y berthynas gyda Menter Iaith dyfu, ynghyd â chydweithio, gan fod Wicimedia, y Llyfrgell a Menter iaith oll wedi rhannu amcanion ynglŷn â datblygiad yr iaith Gymraeg.

CBAC

CBAC yw’r corff arholi mwyaf yng Nghymru ac mae'n cynhyrchu nifer o ddeunyddiau dysgu Cymraeg. Cydweithiodd y Wicimediwr Cenedlaethol gyda CBAC yn y prosiect Wici-Iechyd a rhyddhawyd nifer o adnoddau dysgu digidol ar drwydded agored. Yn dilyn nifer o gyfarfodydd cytunwyd y byddai’r rhain yn cael eu hystyried fel adnoddau treialu ar gyfer y posibilrwydd o ryddhau mwy o gynnwys yn y dyfodol, gan weithio ar yr egwyddor y byddai mwy o gynnwys addysgol agored yn arwain at wella cynnwys wicipedia Cymraeg mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i faes llafur ysgolion, gan alluogi mwy o blant i astudio, cwblhau gwaith cartref ayb gan ddefnyddio adnoddau Cymraeg ar-lein.

Prifysgolion Grŵp GW4

Cynhaliodd y cynghrair hwn o 4 Prifysgol sef Caerdydd, Bryste, Caerwysg a Chaerfaddon 4 golygathon yn 2018. Cefnogwyd y rhain gan y Wicimediwr Cenedlaethol. Hefyd cefnogwyd nifer o Olygathonau eraill ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe. Mae’r GW4 bellach mewn cysylltiad uniongyrchol â WMUK ynglŷn â chydweithio agosach ar ddigwyddiadau yn y dyfodol.

CILIP

Yn ystod y flwyddyn cynhaliodd y Wicimediwr Cenedlaethol gyfarfod gyda phennaeth Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth (CILIP) yng Nghymru ac arweiniodd hyn at brosiect cydweithredol i rannu data am bob llyfrgell yng Nghymru fel data agored trwy Wikidata. Cwblhawyd y prosiect ym Mai 2018 ac fe’i lansiwyd yng nghynhadledd flynyddol CILIP Cymru yn Aberystwyth. Derbyniodd pawb oedd yno gerdyn post gyda manylion y prosiect a chyfarwyddiadau ar sut i olygu eitemau Wikidata. Ceir mwy o wybodaeth, a dolenni cyswllt i’r data ar CILIP Wales website. Gobeithio y bydd y prosiect hwn yn arwain at fwy o lyfrgelloedd unigol yn gweithio gyda Wikidata a phrosiectau Wicimedia eraill, ac y bydd Canghennau eraill o CILIP yn dilyn ein harweiniad ac yn rhannu eu data yn agored hefyd.

Cynhadledd y Cwlwm Celtaidd[golygu | golygu cod]
Y Wicipediawr Cenedlaethol yn croesawi pobol i cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018

Am y tro cyntaf y llynedd cynhaliwyd cynhadledd iaith Wicipedia y Cwlwm Celtaidd yng Nghaeredin, ac yn sgil ei lwyddiant, cytunodd y Llyfrgell Genedlaethol i gynnal y gynhadledd yn 2018. Rheolwyd y digwyddiad hwn gan y Wicimediwr Cenedlaethol. Aeth y gynhadledd yn hwylus a chafwyd adborth cadarnhaol gan nifer o rai oedd yn bresennol. Cafwyd nifer o drafodaethau gwerthfawr ac ysbrydoledig am le Wicipedia mewn addysg, mewn llyfrgelloedd ac yn y gymuned. Tynnwyd sylw at nifer o ddulliau o dyfu Wicipedias bach a thrwy nifer o weithdai technegol dysgwyd mwy am seilwaith Wicipedia a sut y gellir defnyddio Wikidata i wella cynnwys fel blychau gwybodaeth. A thrwy gydol y gynhadledd roedd gwerth gwella Wicipedias bach ac mewn iaith leiafrifol yn amlwg iawn.[7]

Uchafbwyntiau’n cynnwys:

Eluned Morgan AS yn agor cynhadledd Cwlwm Celtaidd
  • 55 o fynychwyr
  • £3200 o arian ysgoloriaeth wedi’i sicrhau gan WMF[8]
  • 12 o ysgoloriaethau rhannol wedi’u dyfarnu
  • Agorwyd y gynhadledd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
  • Daethpwyd â’r gynhadledd i ben gan Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol
  • 35 o gyflwyniadau/gweithdai[9]
  • Mynychwyr o 11 gwlad
Cynrychiolwyr yn rhwydweithio dros baned

Cafodd y gynhadledd adborth cadarnhaol gan y rhai oedd yn bresennol. Cymerwyd yr ystadegau canlynol gan 19 o ymatebwyr i’r ffurflen adborth.

Gwael Boddhaol Da Rhagorol
Digwyddiad yn gyffredinol 15.7% 84.2%
Cynnwys a ffurf 26.3% 73.7%
Safon y Siaradwyr 47% 53%
Effaith ar ddeallusrwydd 5.2% 26.3% 68.4%
Do Naddo
Cadw mewn cysylltiad â mynychwyr? 100%
Mynychu eto y flwyddyn nesaf? 100%

Amcan Strategol 3[golygu | golygu cod]

“Cefnogi’r defnydd o brosiectau Wicimedia fel cyfryngau pwysig ar gyfer addysg a dysgu yn y DU”

Cynllun Ysgolhaig Preswyl[golygu | golygu cod]

Mae Simon Cobb, Ysgolhaig Preswyl Wikidata y Llyfrgell Genedlaethol yn parhau i weithio’n agos â’r llyfrgell i rannu ei data ar drwydded agored. Gwnaeth Simon 20,000 o olygiadau i Wikidata yn ystod y cyfnod adrodd ac mae wedi bod yn brysur hefyd yn arbrofi gyda Geo-siapiau. O ganlyniad, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r Llyfrgell Genedlaethol gyntaf gyda geo-siâp.

Yn dilyn y gwaith ar gasgliad Tirlun Cymru, dechreuodd Simon adeiladu ar y data yn gysylltiedig â’r fasnach lyfrau a gwasg brint Cymru. Mae llawer o’i waith eleni wedi canolbwyntio ar y thema hon. Yn ystod y flwyddyn mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cyflenwi Simon â Metadata perthnasol, delweddau o Gylchgronau ar drwydded agored a delweddau hyrwyddo Llyfrgell Genedlaethol Cymru[10].

Mae gwaith Simon yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • Creu data ar gyfer bob llyfrgell Gymreig, yn cynnwys data CILIP.
  • Crëwyd 630 o eitemau Wikidata yn ymwneud â Masnach Lyfrau Cymru
  • Crewyd 470 o eitemau Wikidata ar gyfer Cylchgronau Cymru
  • Created 90 o eitemau Wikidata ar gyfer papurau newydd Cymru

Holl lenyddiaeth Cymru””

Gan adeiladu ar waith yr ysgolhaig preswyl, mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi negodi rhyddhau holl fetdata’r llyfrgell ar gyfer llenyddiaeth Cymru (deunydd ysgrifenedig o ddiddordeb i Gymru, a gyhoeddwyd yng Nghymru) sy’n dod i tua 350,000 o eitemau data. Rhannwyd y data hwn â’r ysgolhaig preswyl a bydd yn darparu’r ffocws ar gyfer gwaith Simon, ac ar gyfer y Wicimediwr Cenedlaethol yn ystod y flwyddyn sy’n dod. Y nod yn y pen draw fydd creu eitemau Wikidata ar gyfer pob un o’r eitemau data, gan roi mynediad agored i’r data a chefnogi cynlluniau Wiki Cite i ddefnyddio data bywgraffyddol o Wikidata.

Allbwn Ysgolhaig Preswyl Wikidata

Eitemau Wikidata a grëwyd Golygiadau Wikidata
3179 195,637

Addysg Uwch[golygu | golygu cod]

Mae’r cydweithio gyda phrifysgolion Cymru’n dal i ffynnu. Cefnogwyd dau ddigwyddiad ym Mhrifysgol Abertawe, 2 yng Nghaerdydd ac 1 yng Nghaerfaddon. Bu diddordeb cynyddol mewn cynnal gweithgareddau Wicipedia mwy hirdymor fel rhan o gyrsiau penodol yng Nghaerdydd ac Abertawe, er nad oes ymrwymiad hyd yma.

Mae gwaith wedi parhau gyda’r cwrs astudio Cyfieithu Proffesiynol Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rhoddwyd sgwrs i’r holl fyfyrwyr ar y cwrs a chafodd 4 myfyriwr gymorth 1 i 1 i ddefnyddio rhaglen cyfieithu cynnwys i gyfieithu erthyglau fel rhan o aseiniad. Mae trafodaethau ar y gweill i gynnal digwyddiad cyfieithu gyda’r holl fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn nesaf. Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o fyfyrwyr i wneud yr aseiniad Wicipedia, a gallu darbwyllo arweinwyr y cwrs i integreiddio Wicipedia’n rhan greiddiol o’r cwrs.

Digwyddiadau a gynhaliwyd mewn/gyda Phrifysgolion

Golygathonau Cyflwyniadau/gweithdai Mynychwyr
5 2 97

Pwyso a Mesur[golygu | golygu cod]

Mae 2017-18 wedi bod yn flwyddyn brysur, gan ddechrau gyda’r prosiect Wici-Iechyd a gorffen gyda’r Gynhadledd Cwlwm Celtaidd. Mae’r llyfrgell wedi bod yn gefnogol iawn i weithgareddau Wicimedia, gan rannu mwy o gynnwys digidol ar drwydded agored eleni nag unrhyw flwyddyn arall yn ystod y cydweithio. Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol wedi cynnal 10 digwyddiad Golygathon - mwy nag unrhyw flwyddyn arall. Fodd bynnag mae'n amlwg bod gweithgareddau’r llyfrgell o ran estyn allan, ymgysylltu â’r gymuned a data cysylltiedig yn cael cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau diwylliannol eraill, a bellach mae’n cael ei hystyried gan nifer fel arloeswr diolch i’w hymrwymiad i gydweithio â Wicimedia.

Roedd y Llyfrgell yn falch o gynnal y Cwlwm Celtaidd, ac mae cynnal y digwyddiad wedi helpu i ddangos i’r byd ymrwymiad Llyfrgell Genedlaethol Cymru i wella Wicipedia ac yn fwy cyffredinol i weithio gyda’r llywodraeth i wella mynediad at wybodaeth drwy’r Gymraeg.

Mae WMUK wedi bod yn gefnogol iawn i holl weithgareddau Wicimedia yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae'n parhau i fod yn bartner gwerthfawr yn y cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wicimedia.

Cynlluniau ar gyfer flwyddyn nesaf[golygu | golygu cod]

Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd y Wicimediwr Cenedlaethol yn adeiladu ymhellach yn y meysydd lle gwelwyd y llwyddiant mwyaf, trwy rannu mwy o ddata’r llyfrgell fel data cysylltiedig, gan roi mynediad agored i fwy o’i chasgliadau a pharhau gyda gwaith estyn allan i’r gymuned. Gobeithio y gellir sicrhau cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau’n canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, a bydd ffocws cynyddol ar ddangos effaith prosiectau a chynlluniau yn y gorffennol a’r dyfodol, gyda chymorth Europeana impact playbook. Bydd ‘Prosiect holl lenyddiaeth Cymru' yn ffocws, felly hefyd ddigwyddiadau estyn allan fel golygathonau a Hacthonau yn canolbwyntio ar wella cynnwys yn ymwneud â chasgliadau a rannwyd yn ddiweddar gyda Wicimedia. Mae’r Wicimediwr Cenedlaethol hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu ymhellach ddata agored ar gyfer y Bywgraffiadur Cymreig ac integreiddio Wikidata maes o law i wefan y Bywgraffiadur Cymreig.

Deunydd cyfeirio[golygu | golygu cod]

  1. "Congratulations to our Wikimedians Of The Year!". the Wikimedia UK blog! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  2. "The National Library of Wales appoint UK's first permanent Wikimedian | The National Library of Wales". www.library.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  3. "Welsh Portrait Collection". National Library of Wales Blog (yn Saesneg). 2018-06-27. Cyrchwyd 2018-07-27.
  4. "3000 new articles added to the Welsh Wicipedia". the Wikimedia UK blog! (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  5. "Bringing Wikipedia into the Library | American Libraries Magazine". American Libraries Magazine (yn Saesneg). 2018-05-01. Cyrchwyd 2018-07-27.
  6. "Exploring our impact at the National Library of Wales | Europeana". Europeana (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  7. "Celtic Knot". National Library of Wales Blog (yn Saesneg). 2018-07-23. Cyrchwyd 2018-07-27.
  8. "Grants:Conference/Celtic Knot 2018 - Meta". meta.wikimedia.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  9. "Celtic Knot Conference 2018 - Wikimedia UK". wikimedia.org.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-27.
  10. "User:Jason.nlw/Wikidata Visiting Scholar" (yn en), Wikipedia, 2018-04-24, https://en.wikipedia.org/w/index.php?title=User:Jason.nlw/Wikidata_Visiting_Scholar&oldid=838007911, adalwyd 2018-07-27

Troednodiadau[golygu | golygu cod]

  • Casglwyd metrigau defnydd delweddau trwy ddefnyddio Baglama2 and GLAMorous
  • Casglwyd ffigurau creu/golygu eitemau Wikidata ac Erthyglau trwy ddefnyddio Wikimetrics
  • Mae ystadegau argraffiadau Twitter yn dod o Twitter Analytics
  • Cofnodwyd metrigau eraill yn fewnol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.