Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas Wolsey

Oddi ar Wicipedia
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Thomas Wolsey
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr


Roedd Thomas Wolsey (c. Mawrth 1473Tachwedd 29, 1530)[1] yn archesgob, gwladweinydd ac yn gardinal yn yr Eglwys Gatholig. Ganwyd ef yn Ipswich, Swydd Suffolk. Pan ddaeth Harri VIII i’r orsedd fel Brenin Lloegr yn 1509, penodwyd Wolsey yn almonwr neu elusennwr y Brenin, sef unigolyn yn yr eglwys a arferai ddosbarthu arian i’r tlawd haeddiannol.[2] Llwyddodd Wolsey yn ei waith ac erbyn 1514 roedd yn unigolyn dylanwadol mewn llawer o faterion yn ymwneud â’r wladwriaeth. Roedd ganddo hefyd swyddi pwysig o fewn yr Eglwys - er enghraifft, fel Archesgob Caerefrog, yr ail swydd bwysicaf yn Eglwys Lloegr, yn ogystal â bod yn Llysgennad i’r Pab. Roedd ei benodiad fel cardinal gan y Pab Leo X yn 1515 wedi rhoi blaenoriaeth iddo dros holl glerigaeth Lloegr.

Y swydd wleidyddol bwysicaf a roddwyd i Wolsey oedd swydd yr Arglwydd Ganghellor, sef prif gynghorwr y Brenin. Rhoddodd y swydd honno lawer o ryddid iddo, ac roedd hyd yn oed yn cael ei ystyried fel alter rex (neu’r brenin arall). Wedi iddo fethu sicrhau ysgariad y Brenin Harri oddi wrth Catrin o Aragon, collodd Wolsey ffafr y Brenin, a thrwy hynny ei holl swyddi a theitlau llywodraethol. Aeth yn ôl i Gaerefrog er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau gyda’r Eglwys fel archesgob, swydd roedd wedi ei hesgeuluso pan oedd yn gweithio i’r llywodraeth. Cafodd ei alw'n ôl i Lundain er mwyn ateb y cyhuddiadau yn ei erbyn, sef teyrnfradwriaeth. Roedd y rhain yn gyhuddiadau y byddai Harri yn aml yn eu rhoi gerbron unigolion oedd wedi colli ei ffafr, ond bu Wolsey farw ar y daith yn ôl oherwydd afiechyd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Armstrong, Alastair (2008). Henry VIII - Authority, Nation and Religion, 1509-1540 (yn Saesneg). Pearson Education. ISBN 978-0-435-30810-0.
  2. Matthew, H. C. G.; Harrison, B., eds. (2004-09-23), "The Oxford Dictionary of National Biography", The Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press): pp. ref:odnb/29854, doi:10.1093/ref:odnb/29854, http://www.oxforddnb.com/view/article/29854, adalwyd 2020-09-07
  3. "Wolsey, Thomas (1470/71–1530), royal minister, archbishop of York, and cardinal". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/29854. Cyrchwyd 2020-09-07.