Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Caneuon Protest Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
Gwaith celf yr Albwm Dal I Gredu gan Dafydd Iwan

Mae Caneuon Protest yn un o’r ffyrdd a ddefnyddiwyd gan bobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig o’r 1960au ymlaen, i fynegi eu teimladau, eu persbectif ar y byd a’u safbwynt personol ar faterion cyfoes, gwleidyddol a chymdeithasol.

Roedd Cymru’r 60au a'r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.[1]

Roedd darlith ‘Tynged yr Iaith’, a draddodwyd gan Saunders Lewis yn 1962, yn allweddol yn cychwyn y cynnwrf a oedd yn nodweddiadol o Gymru’r 1960au. Allan o’r cynnwrf hwn y daeth Dafydd Iwan i amlygrwydd; uchafbwynt ei boblogrwydd oedd cyffro Arwisgiad 1969 a’i gân 'Carlo' a werthodd dros 10,000 o gopïau.[2] Ond roedd Dafydd Iwan hefyd yn defnyddio'r gân brotest i dynnu sylw at sefyllfaoedd gwleidyddol a chymdeithasol mewn gwledydd eraill hefyd. Dyma a wnaeth gyda chân a gyfansoddodd i Victor Jara, sef ‘Cân i Victor Jara’, sy’n cofnodi dewrder dyn a laddwyd adeg chwyldro militaraidd i geisio disodli Arlywydd Tsile, Salvador Allende, ym mis Medi 1973. Datblygodd Jara i fod yn brif ganwr gwerin Chile, a gan ei fod wedi ei fagu mewn tlodi enbyd ger Santiago, roedd ei ganeuon yn aml yn sôn am y bobl hynny fu’n rhan o’i fagwraeth. Canodd Jara ganeuon protest yn tynnu sylw at fywyd garw a thriniaeth pobl dlawd Chile, ac i rai roedd y gitarydd a’r canwr hwn yn rhy llafar ei farn a daeth yn darged i ffasgwyr Stadiwm Chile adeg chwyldro 1973.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Cân o Gymru i ganwr o Chile". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2012-09-10. Cyrchwyd 2020-06-10.
  2. "Encore : Cerddoriaeth yng Nghymru". www.webarchive.org.uk. Cyrchwyd 2020-06-10.