Defnyddiwr:Gwelystwyth/Drafftiau

Oddi ar Wicipedia
Gwn bwrdd llong UB-91, Cas-gwent
River Clyde ar lawr Traeth V, Mai 18 1915 Art.IWMART4330

William Charles Williams[golygu | golygu cod]

Cafodd William Charles Williams (15 Medi 1880-25 Ebrill 1915) ei gyflwyno gyda'r Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf am ddewrder yng ngwyneb y gelyn i aelodau lluoedd arfog y Gymanwlad a chyn-diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig, yn dilyn ei farwolaeth ym Mrwydr Gallipoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn Sandpits, Stanton Lacy, Swydd Amwythig, yn fab i William ac Elizabeth Williams.[2] Symudodd y teulu i Pinhoe yng Nghaerwysg, cyn ymgartrefu yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, rhywbryd cyn 1891. Mynychodd Williams Ysgol Ramadeg Cas-gwent cyn ymuno gyda Gwasanaeth i Fechgyn y Llynges Frenhinol yn 1895.

Cafodd ei ddyrchafu'n Fachgen Dosbarth 1af yn 1896, yn longwr cyffredin yn 1898, ac yn longwr abl yn 1900.[3] Gadawodd y Llynges yn 1910 a trosglwyddodd i'r Fflyd Brenhinol Wrth Gefn. Rhwng 1910 a dechrau'r rhyfel yn 1914, bu'n gweithio yng Ngweithfeydd Orb Lysaght yng Nghasnewydd, a mae'n bosib iddo weithio am gyfnod byr fel heddwas gyda Heddlu Sir Fynwy.[2]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Ailymunodd Williams â'r Llynges yn 1914 yn dilyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 25 Ebrill 1915, yn ystod y glaniad ar Draeth V, penrhyn Gallipoli, ar HMS River Clyde aeth Williams i gynorthwyo ei Gapten Edward Unwin i sicrhau'r cychod dadlwytho. Daliodd i'r rhaff am dros awr yn y dŵr wrth i'r gelyn parhau i saethu cyn iddo gael ei lladd.[2] Mae erthygl o'r South Wales Weekly Post ar ddydd Sadwrn 21 Awst 1915 yn disgrifio amgylchiadau ei farwolaeth: "Held on to a line, in the water, for over an hour under heavy fire until killed."[4] Roedd yn 34 mlwydd oed. Cafodd Williams ei ddisgrifio gan Gapten Unwin, fel y llongwr mwyaf dewr yr oedd erioed wedi adnabod.[5]

Ar ôl ei farwolaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd y Groes Fictoria ei gyflwyno i'w dad a'i llys-fam gan y Brenin [[Siôr V]] ym Mhalas Buckingham ar 16 Tachedd 1916 i gymeradwyo ei ddewrder.[2]

Nid yw'n wybod lle mae Williams wedi'i claddu. Mae'n bosib ei bod wedi'i gladdu mewn bedd heb ei farcio neu yn y môr. Mae ef wedi'i goffáu ar banel 8, cofeb morwrol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Portsmouth [1] ac ar wn a roddwyd i dref Cas-gwent gan y Brenin Siôr V wedi'r rhyfel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 [1]Cofnod Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Williams, W. Alistair (2008). Heart of Dragon: the VCs of Wales and the Welsh regiments, 1914-82. Bridge Books. pp. 27-37.
  3. [2]Tystysgrif y Llongwr Abl W. C. Williams V.C., yn nodi ei wasanaeth gyda'r Llynges Frenhinol, Gathering the Jewels.
  4. [3]"Nothing could stop such men", South Wales Weekly Post, 21 Awst 1915, p. 6, Cymru1914.org
  5. Snelling, Stephen (1995). VCs of the First World War: Gallipoli. Alan Sutton Publishing Ltd. p. 49.