Tonnau electromagnetig
Dosrennir tonnau electromagnetig i mewn i grwpiau yn ôl eu mynychder. Mae yna donnau radio, microdonau, pelydredd isgoch, golau gweladwy, pelydredd uwchfioled, pelydredd x a phelydredd gamma. Mae'r pellter rhwng pob ton yn gwahaniaethu rhwng 1 kilometr, a 0.000001 mm (bras-amcangyfrif). Mae gan donnau electromagnetig lawer o Defnydd tonnau electromagnetigfnyddiau.
Ceir nifer o wahanol fathau, sy'n cael eu dosbarthu yn ôl amlder y don; mae'r gwahanol fathau'n cynnwys: tonnau radio, microdonnau, ymbelydredd terahertz, ymbelydredd is-goch, golau gweladwy, ymbelydredd uwchfioled, pelydr-X, a phelydrau gama. O'r rhain, tonnau radio ydyw'r hiraf a phelydrau gama sydd a'r byrraf. Mae gwahanol anifeiliaid yn gweld gwahanol ranau o'r spectrwm hwn.
Mae ymbelydredd magnetig yn cario egni a momentwm a all gael gael ei drosglwyddo pan fo'n taro gwrthrych.
Mae'r theori cwantwm yn disgrifio'r cydadweithio rhwng ymbelydredd magnetig â mater megis electronau mewn theori a elwir yn theori electrodeinameg.
Defnydd tonnau electromagnetig
[golygu | golygu cod]Isod mae rhestr o ddefnyddiau cyffredin y tonnau electromagnetig.
Pelydrau Radio
[golygu | golygu cod]Defnyddir ar gyfer darlledu gwasanaethau radio a theledu. Mae tonnau radio’n cael eu defnyddio i drawsyrru rhaglenni teledu a radio. Mae tonnau radio â thonfeddi hirach yn cael eu hadlewyrchu oddi ar haen o’r atmosffer uwch sydd wedi’i gwefru’n drydanol. Mae hyn yn golygu y gallant gyrraedd derbynyddion nad ydynt yng ngolwg y trawsyrrydd gan fod arwyneb y Ddaear yn grwm.
Pelydrau Microdon
[golygu | golygu cod]Fe'u ddefnyddio i goginio bwyd trwy ysgogi moleciwlau dŵr.
Y pelydrau yma sy'n cludo gwres yr haul i'r byd.
Pelydrau Gweledol (goleuni)
[golygu | golygu cod]Y goleuni sy'n ein caniatáu i weld.
Pelydrau Uwchfioled (UV)
[golygu | golygu cod]Pelydrau sy'n rhoi lliw haul i'ch croen.
Fe'u defnyddir mewn ysbytai i wirio cyflwr esgyrn. Maent yn adweithio ag electronau atomau.
Pelydrau Gama
[golygu | golygu cod]Fe'u defnyddir i ddiheintio ffrwythau. Maent yn adweithio â chnewyll atomau.