Deadhorse

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Deadhorse
Deadhorse Alaska aerial view.jpg
Math cymuned heb ei hymgorffori Edit this on Wikidata
Poblogaeth 25 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir North Slope Borough Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Uwch y môr 49 Troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 70.2206°N 148.4567°W Edit this on Wikidata
Deadhorse General Store

Cymuned ar Lethr y Gogledd yn Alaska, yr Unol Daleithiau (UDA), ger arfordir y Cefnfor Arctig, yw Deadhorse. Mae'r dref fechan yn cynnwys yn bennaf gyfleusterau ar gyfer gweithwyr y cwmnïau sy'n gweithio meysydd olew Bae Prudhoe gerllaw. Gellir cyrraedd Deadhorse ar hyd Traffordd Dalton o Fairbanks, neu drwy faes awyr Deadhorse ei hun.

Mae'r cwmnïau sy'n defnyddio Deadhorse yn gwasanaethu Bae Prudhoe a meysydd olew eraill, ynghyd â'r System Pibell Olew Traws-Alaska (TAPS) sy'n cludo olew o Fae Prudhoe i Valdez yn ne canolbarth Alaska. Mae pob adeilad yn Deadhorse wedi ei adeiladu ar welïau gro artiffisial ac yn cael eu cludo yno fel unedau parod mewn awyrennau neu ar hyd y Draffordd.

Ceir rhywfaint o le i dwristiaid aros yn y dref. Fel rheol maent yn cyrraedd Deadhorse a Bae Prudhoe ar fysiau twristaidd o Fairbanks ar hyd Traffordd Dalton, taith ddau ddiwrnod gydag arosfa dros nos yn Coldfoot. Yn yr haf caiff ymwelwyr fynd i weld y Cefnfor Arctig pan fo'r ia sy'n ei orchuddio fel arall wedi toddi, a hefyd caent brofi'r haul canol nos diolch i leoliad Deadhorse uwchlaw Cylch yr Arctig. Mae'r diwrnod haf yn parhau am 63 diwrnod yn Deadhorse (h.y. heb i'r haul fachlud).