Dosbarth Ffederal Deheuol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth De Rwsia)
Neidio i: llywio, chwilio
Dosbarth Ffederal Deheuol
RussiaNorthernCaucasus.png
Arwynebedd: 585,950 km²
Trigolion: 22,820,849 (amcangyfrif 1 Ionawr 2005)
Dwysedd poblogaeth: 39 trigolion/km²
Canolfan llywodraeth: Rostov-na-Donu

Un o wyth talaith ffederal Rwsia yw'r Dobarth Ffederal Deheuol (Rwseg: Ю́жный федера́льный о́круг, neu Yuzhnyy federal'nyy okrug). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Rwsia ar y ffiniau ag Wcrain a Casachstan. Mae'n cynnwys rhan Rwsiaidd y Cawcasws.[1] Cennad arlywyddol y dalaith yw Dmitriy Kozak. 'Y Dobarth Ffederal Cawcasaidd Gogleddol oedd yr enw gwreiddiol pan gafodd ei ffurfio ym MAi 2000, ond newidiwyd yr enw am resymau gwleidyddol, ar 21 Mehefin y flwyddyn honno.[2] Ar 19 Ionawr 2010, rahnnwyd y Dosbarth Ffederal Deheuol yn ddau pan ffurfiwyd Dobarth Ffederal Cawcasaidd Gogleddol unwaith eto yn neau'r Dosbarth.

Ar 28 Gorffennaf 2016 diddymwyd Dobarth Ffederal Crimea (sy'n cynnwys Gweriniaeth Crimea a Dinas Ffederal Sevastopol) ac fe'i unwyd gyda'r Dobarth Ffederal Deheuol er mwyn "datblygu'r weinyddiaeth".[3]

Mae'n cynnyws sawl rhanbarth, gan gynnwys dwy weriniaeth ymlywodraethol:

  1. Gweriniaeth Adygea*
  2. Oblast Astrakhan
  3. Kalmykia*
  4. Crai Krasnodar
  5. Oblast Rostov
  6. Oblast Volgograd
Map.

Mae * yn dynodi gweriniaethau ymlywodraethol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


 
Dosbarthau ffederal Rwsia
Flag of Russia.svg
Map of Russian districts, 2010-01-19.svg
Canol | Deheuol | Gogledd-orllewinol | Gogledd y Cawcasws | Dwyrain Pell | Siberia | Ural | Volga
  1. http://russiatrek.org/south-district
  2. "1.1. ОСНОВНЫЕ СОЦИАЛЬНО-ЭКОНОМИЧЕСКИЕ ПОКАЗАТЕЛИ в 2014 г." (yn ru). Regions of Russia. Socioeconomic indicators - 2015. Russian Federal State Statistics Service. http://www.gks.ru/bgd/regl/b15_14p/IssWWW.exe/Stg/d01/01-01-1.doc. Adalwyd 26 Gorffennaf 2016.
  3. "Крымский федеральный округ включен в состав Южного федерального округа" (yn Russian). Interfax. 28 Gorffennaf 2016. http://www.interfax.ru/russia/520930. Adalwyd 28 Gorffennaf 2016.