Dawn Ymadrodd

Oddi ar Wicipedia
Dawn Ymadrodd

Llyfr gan Mary Wiliam ar ymadroddion, priod-ddulliau a diarhebion Cymraeg yw Dawn Ymadrodd. Casgliad ydyw o gofnodion yr awdur o'r iaith lafar ers deugain mlynedd ac o bedwar ban Cymru. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn y flwyddyn 2016.[1] Mae'r llyfr yn ehangiad sylweddol ar lyfryn a gyhoeddwyd dan yr un teitl ym 1978, ac hwnnw yn gasgliad o erthyglau'r awdur yn Y Cymro o 1973 a 1974.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cyhoeddi Dawn Ymadrodd", lleol.cymru (26 Gorffennaf 2016). Adalwyd ar 30 Mehefin 2017.
  2. Mary Wiliam. Dawn Ymadrodd (Llandysul: Gwasg Gomer, 2016), t. vii.
Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.