David Amess

Oddi ar Wicipedia
David Amess
Portread swyddogol Syr David Amess (2020).
Ganwyd26 Mawrth 1952 Edit this on Wikidata
Plaistow Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 2021 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Leigh-on-Sea Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bournemouth
  • St Bonaventure's RC School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PlantKatie Amess Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.davidamess.co.uk/ Edit this on Wikidata

Gwleidydd Seisnig o'r Blaid Geidwadol oedd Syr David Anthony Andrew Amess (26 Mawrth 195215 Hydref 2021) a fu'n Aelod Seneddol dros Orllewin Southend o etholiad Mai 1997 hyd at ei lofruddiaeth yn Hydref 2021. Cyn hynny, gwasanaethodd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Basildon o Fehefin 1983 i Ebrill 1997.

Ganed ef yn Plaistow, Dwyrain Llundain, i deulu dosbarth-gweithiol, a chafodd ei fagu'n Gatholig Rhufeinig. Mynychodd Ysgol Plant Iau St Antony yn Forest Gate ac Ysgol Ramadeg St Bonaventure yn Newham. Derbyniodd radd mewn economeg a llywodraeth o Goleg Technoleg Bournemouth.[1]

Daeth i Dŷ'r Cyffredin yn y 1980au fel Thatcheriad rhonc. Ymgyrchodd dros les anifeiliaid, ac yn wahanol i nifer o'i gyd-Geidwadwyr fe wrthwynebodd hela llwynogod ac ysgyfarnogod. Cyflwynodd sawl gwelliant deddfwriaethol a mesur preifat, gan gynnwys y Ddeddf Amddiffyn yn erbyn Rhwymo Creulon (1988) a'r Ddeddf Cartrefi Cynnes a Chadwraeth Ynni (2000). Bu'n Ewropsgeptigwr ac yn gefnogwr brwd dros Brexit yn ystod refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Ar 15 Hydref 2021 cafodd Amess ei drywanu sawl gwaith tra'n cynnal cyfarfodydd â'r etholwyr mewn eglwys yn Leigh-on-Sea, ac yno bu farw. Arestiwyd dinesydd Prydeinig, o dras Somaliaidd, ar gyhuddiad o lofruddiaeth, a fe'i cedwir yn y ddalfa dan rymoedd y Ddeddf Terfysgaeth.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Sir David Amess, well-liked, hard-working and robustly Right-wing Conservative MP for Basildon and then Southend West – obituary", The Daily Telegraph (15 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Gareth Davies a Martin Evans, "Sir David Amess dies: Terror police leading probe into MP's fatal stabbing", The Daily Telegraph (15 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Hydref 2021.