Damwain awyren Cwm Edno

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynoldamwain awyrennu Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Ionawr 1952 Edit this on Wikidata
Lladdwyd23 Edit this on Wikidata
GweithredwrAer Lingus Edit this on Wikidata

Ar 10 Ionawr 1952 roedd awyren DC-3 Dakota o'r enw 'Saint Kevin', a oedd yn eiddo i Aer Lingus, yn teithio o faes awyr Northolt, Llundain, i faes awyr Dulyn. Wrth groesi mynyddoedd Eryri, daliwyd hi gan wyntoedd cryfion. Disgynodd i lawr yn Nyffryn Edno, Dolwyddelan, Gwynedd. Bu farw y 23 teithiwr oedd ar ei bwrdd.

Yn 2017 hon oedd y 25ed damwain awyren waethaf a fu yng ngwledydd Prydain. Gyrrwyd hi gan beiriannau Pratt & Whitney R-1830-90C.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Air template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am awyrennu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.