Damwain awyren Cwm Edno

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Damwain awyr Cwm Edno)
Damwain awyren Cwm Edno
Enghraifft o'r canlynoldamwain awyrennu Edit this on Wikidata
Dyddiad10 Ionawr 1952 Edit this on Wikidata
Lladdwyd23 Edit this on Wikidata
GweithredwrAer Lingus Edit this on Wikidata

Ar 10 Ionawr 1952 roedd awyren DC-3 Dakota o'r enw 'Saint Kevin', a oedd yn eiddo i Aer Lingus, yn teithio o faes awyr Northolt, Llundain, i faes awyr Dulyn. Wrth groesi mynyddoedd Eryri, daliwyd hi gan wyntoedd cryfion. Disgynodd i dir mawnog Bwlch y Rhediad, yn Nyffryn Edno, Dolwyddelan, Gwynedd. Bu farw pob un o'r 23 teithiwr oedd ar ei bwrdd.

Cychwynodd yr awyren o Lundain am 17:25 a phasiodd uwchben Daventry, Northampton am 17:56. Am 19:12 cafwyd neges gan y criw eu bod uwch Nefyn, 6,500 troedfedd uwch lefel y môr, a'u bod i'r gogledd o'u llwybr arfaethedig o ychydig filltiroedd, ni chafwyd unrhyw neges radio pellach o'r awyren.[1]

Yn 2017 hon oedd y 25ed damwain awyren waethaf a fu yng ngwledydd Prydain. Gyrrwyd hi gan beiriannau Pratt & Whitney R-1830-90C. Ni daethpwyd o hyd i union achos y ddamwain gan y Llys Ymchwilio a gynhaliwyd yn Ebrill 1952. Roedd y criw wedi colli rheolaeth o'r awyren yn fuan ar ôl anfon eu neges olaf. Nodwyd hefyd fod rhan o'r adain wedi torri i ffwrdd o'r awyren a glaniodd 183 metr (200 llathen) o weddill yr awyren. Yr achosion tebygol oedd gwynt cryf.

Cyfeiriad[golygu | golygu cod]

  1. peakdistrictaircrashes.co.uk; adalwyd 10 Ionawr 2024.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]