Dala dala
Mae'r Dala dala yn enw ar fath o fws mini neu tacsi-fws yn Tansanïa.[1] Maent yn enw lleol ar system matatu a geir yn Cenia a gweddill dwyrain Affrica. Mae'r tacsi-fws yn dilyn llwybr gydnabyddiedig ac yn casglu pobl ar hyd y ffordd. Maent yn ymateb i broblem trafnidiaeth a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad.[2]
Cyn dyfodiad bysiau mini byddai gyrwyr yn defnyddio tryc gyda meinciau wedi eu rhoi fewn[3]. Galwyd rhain yn chai maharagwe, ac roeddynt yn boblogaidd c. 1990.[2]
Mae'r dala dala, fel y matatu, yn dilyn llwybr gydbyddiedig gan gasglu pobl ar hyd arhosfeydd[4] ond bydd hefyd yn codi a gollwng pobl ar hyd y llwybr fel bo'r galw a'r lle.[1] Bydd y dala dala yn dechrau ar ei daith pan fydd y bws yn llawn.
Fel gyda'r matatu, ceir gyrrwr a manamba ('gweithiwr ffatri' mewn Swahili) sy'n dicedwr ac yn rhedeg y gwasanaeth tacsi-fws. Bydd y manamba yn casglu a threfnu'r teithwyr ac yn curo ceiniog ar ei frest er mwyn arwyddo wrth y gyrrwr pryd i gychwyn a phryd i stopio.
Ers 2008 mae rhai dala dala yn cael eu gweinyddu'n gyhoeddus yn Dar es Salaam.[5]
Enw
[golygu | golygu cod]Mae'r gair dala dala yn ynganiad lleol o'r arian "dollar". Defnyddir y term thumni hefyd.[2]
Cyd-ddigwyddiad ffodus i'r siaradwr Cymraeg yw gweld gwasanaeth cludo sydd ag enw yr un peth â'r term ddeheuol Gymraeg am ddal bws neu dacsi, dala tacsi.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygodd y dala dala fel tacsis anghyfreithiol yn ninas Dar es Salaam yn sgil tan-fuddsoddiad mewn gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus a thwf poblogaeth.[6] Rhwng 1975 a 1983 (y flwyddyn cyfreithiolwyd y dala dala) lleihaodd nifer y bysiau yn y ddinas gan 36% tra ffrwydrodd y boblogaeth gan tua 80%.[6] Yn 1983 caniatawyd i gwmni trafnidiaeth y llywodraeth i is-gontractio trafnidiaeth i gwmniau preifat, ond, achos y tariff uchel gwnaeth hyn prin ddim i gynyddu nifer y dala dala cyfreithiol.
Yn sgil rhagor o ddiwygiadau yn yr 1990au hwyr, gwellodd prydlondeb gwasanaeth bysiau mini cyfreithiol. Rhwng 1991 a 1998 cynyddodd eu niferoedd gan 450%.[6] Parhaodd y gwmnïau bysiau mini i weithredu ac yn 1998 amcangyfrifwyd bod bron hanner y dala dala yn gwmnïau preifat.[6] Erbyn 1998 roedd y dala dala bron wedi goddiweddyd gwasnaeth gyhoeddus y llywodraeth gan, yn eu tro, dod ag arian tariff i goffrau'r wlad.[6] Yn ystod y cyfnod yma, roedd rhwng 7,640 a 6,300 dala dala yn rhedeg ochr yn ochr gyda gwasaneth cyhoeddus y llywodraeth.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Mae'r dala dala yn debyg i sawl system drafnidiaeth hunan-drefnus yn Affrica. Ceir rhai eraill tebyg:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Thoughts On Dala Dala Buses isteptanzania.wordpress.com, May 29, 2009
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Tripp, Aili Mari (1997). "The Daladala Bus Wars". Changing the Rules: the Politics of Liberalization and the Urban Informal Economy in Tanzania. UNIVERSITY OF CALIFORNIA PRESS. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ Travel Guide to Zanzibar zanzibar.org
- ↑ "How many people can you fit into a dala-dala". How many people can you fit into a dala-dala. Cyrchwyd 2011-06-12.[dolen farw]
- ↑ group=AICD name=synd2
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 Rizzo, Matteo (2002). "Being taken for a ride: privatisation of the Dar es Salaam transport system 1983–1998". The Journal of Modern African Studies 40 (1): 133–157. doi:10.1017/s0022278x01003846. http://eprints.soas.ac.uk/12960/1/Rizzo_Dar_es_Salaam.pdf.