Dala'r Slac yn Dynn

Oddi ar Wicipedia
Dala'r Slac yn Dynn
AwdurJohn Davies a Wyn Gruffydd
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847713285

Hunangofiant y chwaraewr rygbi John Davies ganddo ef ei hun a Wyn Gruffydd yw Dala'r Slac yn Dynn a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Hunangofiant y chwaraewr rygbi chwedlonol John Davies, wedi ei gydysgrifennu gan Wyn Gruffydd, y sylwebydd rygbi. Bu John yn un o gewri rheng flaen Castell-nedd a Llanelli am flynyddoedd lawer; enillodd 34 cap i Gymru, ac mae'n cael ei gydnabod fel un o chwaraewyr caletaf a mwyaf cyson y gêm dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Prop a ffermwr o Foncath, Sir Benfro yw John Davies. Mae nerth y prop wedi galluogi iddo gyfuno ei ysfa i chwarae rygbi gyda'’i waith bob dydd ar ei fferm yng Nghilrhue yng nghysgod mynyddoedd y Preselau, a hynny bron yn ddi-dor am 27 mlynedd. O’'i ddyddiau yn Ysgol y Preseli, dringodd John Davies i rengoedd uchel y byd rygbi, gan chwarae i Glwb Rygbi Crymych a thimau ieuenctid Sir Benfro a Chymru, cyn ymuno â Chastell-nedd. Aeth ymlaen i ennill 34 cap dros Gymru yn y 1990au fel prop pen tyn, ar adeg pan fu newidiadau dramatig o fewn y gamp.

Pan drodd y gêm yn broffesiynol cafodd gynigion gan glybiau ar draws Ewrop, a dewisodd Richmond yn y pen draw, gan orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn sgil hynny. Dychwelodd i Gymru ac at y Scarlets wedyn, a oedd yn dân ar groen ambell un a arferai ei gefnogi yng nghrys du Castell-nedd. Wedi gyrfa ar y lefel uchaf, ac ar ôl pedair blynedd ar bymtheg i ffwrdd, fe ddychwelodd John i Glwb Rygbi Crymych. Dyrchafwyd y clwb i Adran 3 y Gorllewin yn 2008 gyda John yn ôl yn y rheng flaen, ac fe’i gwnaed yn gapten y clwb yn nhymor 2012/13. Ac yntau’'n dathlu 27 mlynedd o chwarae, sicrhaodd ddyrchafiad y clwb i Adran 1 ar gyfer tymor 2013/14.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.