Dail troed yr ebol
| Dail troed yr ebol | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Asterales |
| Teulu: | Asteraceae |
| Genws: | Tussilago |
| Rhywogaeth: | T. farfara |
| Enw deuenwol | |
| Tussilago farfara L. | |
Llysieuyn bychan a dyfir mewn gardd neu yn rhydd mewn gwrychoedd ydy dail troed yr ebol neu carn yr ebol (Lladin: Tussilago farfara; Saesneg: Coltsfoot). Ystyr y gair Lladin Tussilago ydy 'Lleihau pesychu' ac mae wedi cael ei ddefnyddio ers canrifoedd at anhwylderau'n ymwneud â'r ysgyfaint, anhwylderau megis asma neu beswch. O ran pryd a gwedd, maen nhw'n edrych yn debyg iawn i ddant y llew. Mae'r llysieuyn rhwng 10 cm a 30 cm o ran maint.
Cynhyrchir melysion ar gyfer dolur gwddw wedi ei wneud gan Stockley's Sweets of Oswaldtwistle gyda dail carn yr ebol - o'r enw "Coltsfoot Rock".[1]
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Gellir casglu'r dail yn y gwanwyn a'u berwi mewn peint o ddŵr mewn sosban fawr heb glawr nes y daw hyd at hanner y dŵr. Wedi ei hidlo ac ychwanegu mêl a lemwn ynddo gellir ei yfed deirgwaith y dydd bob yn llwyaid.[2] Dywedir hefyd fod y blodyn ei hun yn medru gwella anhwylderau'r croen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan y Cwmni Stockley's Sweets of Oswaldtwistle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-21. Cyrchwyd 2009-04-10.
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.