Dafydd Williams
Dafydd Williams | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1954 Saskatoon |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gofodwr, meddyg |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal Gofodwyr NASA, NASA Outstanding Leadership Medal |
Athro prifysgol, meddyg o Ganada a gofodwr wedi ymddeol o CSA yw Dafydd Rhys Williams (ganwyd 16 Mai 1954). Bu yn y gofod am 687 awr, ac yn "cerdded" y tu allan i'r llong ofod am 17 awr a 47 munud. Mae hefyd yn beilot trwyddedig ac yn nofiwr tanddwr.
Cafodd ei eni yn Saskatoon, Saskatchewan yng Ngorllewin Canada ond ganwyd ei dad yn Bargoed, Cymru.[1] Derbyniodd radd B.Sc o Prifysgol McGill, Montreal, ym 1976 a gradd meistr mewn Llawfeddygaeth ym 1983. Dechreuodd weithio i Asiantaeth Ofod Canada ym Mehefin, 1992. Gwasanaethodd i NASA o Orffennaf 1998 hyd Tachwedd 2002 fel Cyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd Gofod yn Johnson Space Center.
Gwnaeth gyfweliad teledu ar y BBC, lle siaradodd Gymraeg, ac aeth a Chap Rygbi Rhyngwladol a enillwyd gan Gareth Edwards, Baner y Ddraig Goch[2] a gonc Mistar Urdd gydag ef ar daith i'r gofod[3].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Newyddion BBC - Astronaut takes dragon into space
- ↑ Astronaut takes dragon into space
- ↑ Pen-blwydd Mistar Urdd adalwyd 2 Mehefin 2016
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ffilm fyw o dafydd yn siarad Cymraeg, yn y gofod; adalwyd 26 Tachwedd 2015
- (Saesneg) Gwefan Dafydd Williams Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) BBC Wales Today Dafydd Rhys Williams
- (Saesneg) Newyddion BBC Astronaut takes dragon into space
- Genedigaethau 1954
- Academyddion yr 20fed ganrif o Ganada
- Academyddion yr 21ain ganrif o Ganada
- Academyddion Prifysgol McMaster
- Academyddion Prifysgol Toronto
- Awduron llyfrau ffeithiol am y gofod
- Awduron llyfrau ffeithiol Saesneg o Ganada
- Canadiaid Cymreig
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol McGill
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Ottawa
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Toronto
- Gofodwyr o Ganada
- Llawfeddygon o Ganada
- Meddygon yr 20fed ganrif o Ganada
- Meddygon yr 21ain ganrif o Ganada
- Pobl a aned yn Saskatchewan
- Ymchwilwyr meddygol o Ganada