Dabke

Oddi ar Wicipedia
Dabke
Merched Palesteinaidd yn dawnsio'r Dabke Palestina traddodiadol
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, math o ddawns Edit this on Wikidata
MathLevantine Arabic music, Arab folk dance Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwladwriaeth Palesteina, Irac Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Grŵp Dabke poblogaidd ar Mount Gerizim yn Nablus.

Mae Dabke (Arabeg: دبكة‎ hefyd wedi'i sillafu Dabka, Dubki, Dabkeh neu'r lluosog Dabkaat)[1] yn ddawns werin Lefant frodorol.[2] Mae Dabke yn cyfuno'r ddawns gylch a dawnsio llinell ac yn cael ei berfformio'n helaeth mewn priodasau ac achlysuron llawen eraill. Mae'r llinell yn ffurfio o'r dde i'r chwith gyda arweinydd y dabke yn arwain y llinell, bob yn ail yn wynebu'r gynulleidfa a'r dawnswyr eraill. Yn Saesneg, gellir ei drawsgrifio fel dabka, dabki ac dabkeh.

Etymoleg ac Hanes[golygu | golygu cod]

Dynion yn dawnsio dabke, 1880

Mae geirdarddiad o 'dabke' yn ansicr, ond credir ei fod yn deillio o'r air Lefant Arabig dabaka (Arabeg: دبكة‎) sy'n golygu "stampio'r traed"[3][4] neu "i wneud sŵn".[5]

Efallai bod y neidiau dabkeh wedi tarddu o ddefodau ffrwythlondeb Canaan hynafol yn ymwneud ag amaethyddiaeth, cael gwared ag ysbrydion drwg ac amddiffyn planhigion ifanc.[6] Yn ôl yr hanesydd Libanus Youssef Ibrahim Yazbec, mae'r dabke yn tarfu o hen ddawnsfeydd Phoenicaidd filoedd o flynyddoedd yn nôl.[5]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae Dabke yn boblogaidd mewn gwahanol rannau o'r Dwyrain Canol, a gellir gweld amrywiadau ym Mhalestina, Libanus, Syria, Irac, Gwlad yr Iorddonen, gogledd Saudi Arabia, ac Yemen.[7] Yn y Levant mae tua ugain math o dabke, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

Ymhlith y Palestiniaid, dau fath cyffredin o dabke yw'r shamaliyya a sha'rawiyya a'r karaadiyya. Math arall yw'r dabke niswaniyyah, wedi'i ddawnsio'n benodol gan fenywod. Mae gan bob math o ddawns dabke ei set gyfatebol ei hun o ganeuon, a'i thema yn aml yw cariad.[8]

Mae yna chwe phrif fath o dabke:

  1. Al-Shamaliyya (الشمالية) : Mae'n cynnwys y lawweeh (لويح) (yr arweinydd) ar ben llinell o ddynion yn dal dwylo ac wedi'u ffurfio mewn hanner cylch. Disgwylir i'r lawweeh fod yn arbennig o fedrus o ran cywirdeb, gallu i fyrfyfyrio, a chyflymder (fel arfer mae'n ysgafn ar ei draed). Yn nodweddiadol, mae'r dabke yn dechrau gyda cherddor yn chwarae unawd ar y mijwiz neu'r yarghoul (offerynnau traddodiadol) o ddarn Dal Ouna, yn aml gyda dau person yn canu i'w gerddoriaeth. Mae'r dawnswyr yn datblygu symudiad a cham cydamserol a phan fydd y cantorion yn gorffen eu cân, mae'r lawweeh yn torri o'r hanner cylch i ddawnsio ar ei ben ei hun. Pan fydd arweinydd y dabke yn gweld bod camau'r dynion mewn un rhythm, mae’n cyfarwyddo’r dawnswyr i arafu a dechrau symudiad yn croesi eu troed dde o flaen yr un gyferbyn (eu troed chwith). Mae'r lawweeh yn parhau i ddangos y dawnswyr o'r rhythmau sylfaenol, ac ar yr adeg hon bydd gwesteion eraill yn y briodas neu'r digwyddiad yn ymuno yn y llinell dabke. Dyma'r math mwyaf poblogaidd a chyfarwydd o ddawnsio dabke ar gyfer dathliadau teulu, fel priodasau, enwaedu, wrth i deithwyr dod adref, ar ôl rhyddhau carcharorion, a hefyd ar gyfer gwyliau cenedlaethol, lle mae dabke yn dod yn arddangosiad o bersonoliaeth genedlaethol.
  2. Al-Sha'rawiyya (الشعراوية) : yn gyfyngedig i ddynion ac yn cael ei nodweddu gan camau neu stomps cryf. Y lawweeh yw'r elfen bwysicaf yn y math hwn o dabke.
  3. Al-Karaadiyya (الكرادية) : nodweddir hyn gan ddiffyg lawweeh a symudiad araf gydag azif (عازف) (chwaraewr ffliwt) yng nghanol y cylch.
  4. Al-Farah (الفره) : yw un o'r mathau mwyaf actif o dabke ac felly mae angen lefel uchel o ffitrwydd corfforol.
  5. Al-Ghazal (الغزل) : yn cael ei nodweddu gan dri stomp cryf o'r droed dde, ac fel arfer mae'n flinedig i'r rhai sy'n dawnsio.
  6. Mae Al-Sahja (السحجة) : yn ddawns boblogaidd Palestina a Gwlad Iorddonen a ddaeth yn sylweddol fwy poblogaidd yn ystod y Mandad Prydeinig ar gyfer Palestina. Mae Al-Sahja yn perthyn yn bennaf i ogledd a chanol Palestina, ac yn y de mae ganddo ddau fath: As-Samir (السامر) ac Al-Dahiyya (الدحية) . Mae ffurf As-Samir yn cynnwys 2 res o ddynion cyferbyn i'w gilydd, yn cystadlu drwy barddoniaeth werin, weithiau'n fyrfyfyr a hyd yn oed yn cyfnewid sarhad, yn cystadlu ar faint mor gyfwrwys maen nhw. Mae Al-Dahiyya yn fersiwn Bedowiniaid o'r un math lle mae dawnsiwr proffesiynol sy'n dawnsio rhwng dwy rhes o ddynion sy'n cystadlu am ei sylw, ac sy'n rhoi arian iddi ar brydiau. Mae Al-Sahja fel arfer yn digwydd y noson cyn parti priodas y priodfab (zafat al-'arees), gyda'r rhan fwyaf o ddynion y pentref yn cymryd rhan, yn enwedig y rhai a fydd yn mynychu neu'n ymwneud yn uniongyrchol â'r dathliadau priodas eraill.
Plant yn dawnsio Dabke yn ystod dathliadau cyfleusterau Dŵr, Glanweithdra a Hylendid newydd yn Hebron.

Mae Gwyddoniadur Dawns Rhyngwladol Rhydychen hefyd yn sôn am y mathau ychwanegol hyn o ddawnsfeydd llinell yn ei gofnod o dan "y Dwyrain Canol":

Perfformiwyd y Murdah yn wreiddiol gan fenywod yn Nwyrain Arabia, tra bod dynion y gymuned i ffwrdd ar deithiau pysgota a pherlau estynedig. Mae'n cynnwys dwy linell o ddawnswyr sy'n symud tuag at ei gilydd gyda camau bach ac yna'n mynd yn ôl wrth ganu cwpledi wedi'u odli. Roedd y cwpledi hyn i raddau helaeth yn galaru am anwyliaid absennol. Er nad yw'r diwydiant morwrol bellach yn bwysig yn economaidd yn y rhanbarth, mae menywod yn parhau i berfformio'r ddawns hon mewn cynulliadau cymdeithasol.

Mae'r Ahwash (Fr., ahouache) a berfformir gan tylwythau Berber ym Mynyddoedd High Atlas Moroco, yn cynnwys un neu sawl llinell grom o ddynion ac un neu sawl llinell grom o ferched, y cyfan yn ffurfio cylch neu elips o amgylch drymwyr gwrywaidd. Mae un llinell yn adrodd cerdd y mae'r llinell arall yn ymateb iddi gyda cherdd arall; yna mae pob un yn symud i guriad y drymiau. Yn nodweddiadol, mae'r gymuned gyfan yn cymryd rhan. Wrth berfformio, mae dawnswyr benywaidd yn dal eu hunain i fyny yn syth iawn ac yn symud gyda camau stacato, gan ddal gafael ar wialen wehyddu’r tŷ. Merched yn ogystal â dynion sy'n cyfansoddi'r farddoniaeth sy'n cael ei hadrodd. Dawns debyg a adroddwyd ar gyfer Moroco yw'r dukkala. Mewn un amrywiad mae dyn a dynes sy'n wynebu ei gilydd yn cystadlu i weld pa un sy'n gallu dawnsio hiraf.

Caneuon[golygu | golygu cod]

Mae yna nifer o fathau o ganeuon sy'n cael eu canu yn benodol ar gyfer dabke. Mae rhai o'r caneuon mwyaf poblogaidd hyn, megis Dal Ouna (دلعونا), Al Jafra (الجفرا), Al Dahiyya (الدحية), a Zareef il-Tool (ظريف الطول), mewn gwirionedd yn genres ynddynt eu hunain, yn yr ystyr gall geiriau amrywio'n sylweddol ym mhob perfformiad ond mae rhythm sylfaenol y gerddoriaeth yn gyson ac yn hawdd ei adnabod. Gellir gweld yr amrywiad hwn yn y cannoedd o amrywiadau telynegol a glywir ac a gofnodwyd o'r caneuon hyn sydd, waeth beth fo'u geiriau penodol, yn cael eu cydnabod gan eu rhythm ac ar brydiau, un ymadrodd, fel yn Ala Dal Ouna, Jafra, ac eraill.

Offerynnau[golygu | golygu cod]

Y Dabke ym mhriodas Arabaidd.

Mae'r Oud (عود), ble daw'r gair Saesneg "lute" ohono, wedi'i siapio fel hanner gellyg gyda gwddf byr heb fret. Mae ganddo chwe coraid o ddau linyn ac fe chwaraewyd gyda phlectrwm, fel arfer pluen eryr wedi'i docio. Mae'r offeryn hwn yn creu sain ddwfn a llachar.

Mae'r mijwiz (مجوز) sy'n golygu “dwbl” mewn Arabeg yn boblogaidd iawn mewn cerddoriaeth Lefant. Mae'n fath o glarinét pibau cyrs sy'n cael ei chwarae trwy anadlu'n esmwyth trwy agorfa gylchol ar phen a thrwy symud y bysedd dros y tyllau i lawr blaen y tiwb er mwyn creu'r gwahanol nodiadau. Mae'r minjjayrah yn debyg i'r mijwiz, ffliwt pibau cyrs penagored sy'n cael ei chwarae yn yr un arddull.

Drwm llaw bach yw'r tablah (طبلة) a elwir hefyd yn durbakke. Mae'r rhan fwyaf o dablahs wedi'u haddurno'n hyfryd, rhai gyda mewnosodiad pren, teils neu esgyrn, metel ysgythrog, neu baentiadau mewn dyluniadau sy'n nodweddiadol o'r Dwyrain Agos. Un o'r offerynnau taro a chwaraeir amlaf; mae'r tablah yn pilenoffon (membranophone) allan o groen gafr neu bysgod wedi'i ymestyn dros drwm siâp fâs gyda gwddf llydan. Fel arfer wedi'i wneud o lestri pridd neu fetel, fe'i gosodir naill ai o dan y fraich chwith neu rhwng y coesau a'i daro yn y canol am y curiadau cryf ac ar yr ymyl ar gyfer y curiadau fain. Er heddiw anaml y defnyddir pennau croen pysgod oherwydd yr hinsawdd. Pan gaiff ei ddefnyddio mae'n dod yn rhydd, mae'n rhaid i chi gynhesu'r pen i gael y sain gywir yn ôl. Mae'r pilen neu ben y drwm bellach wedi'i wneud allan o blastig.

Mae'r daff (دف), a elwir hefyd yn Riq (رق), yn debyg i'r tambwrîn. Mae'n cynnwys ffrâm gron, wedi'i orchuddio ar un ochr â chroen gafr neu bysgod. Mae parau o ddisgiau metel wedi'u gosod yn y ffrâm i gynhyrchu'r tincian pan fydd y llaw yn ei daro. Mae synau’r offeryn taro hwn yn gosod rhythm llawer o gerddoriaeth Arabaidd, yn enwedig ym mherfformiadau darnau clasurol.[9]

Defnyddir yr arghul, (يرغول) a elwir hefyd yn yarghoul, yn gyffredin mewn unawdau, yn aml yng nghwmni cantorion, sy'n dechrau perfformiadau dabke. Yn wahanol i'r mijwiz, dim ond tyllau bysedd sydd ganddo yn un o'i bibellau.

Offeryn chwythbren yw'r Shubabeh, (شبابة) a wneir yn draddodiadol o gansen cyrs. Mae'n wahanol i'r Mijwiz ac Arghul yn yr ystyr nad oes ganddo gorsen, yn lle hynny mae'r cerddor yn chwythu yn erbyn ochr yr offeryn ar ongl i gynhyrchu'r tôn. Yn draddodiadol mae'r bugail yn chwarae'r Shubabeh yn yr anialwch.

Perfformiadau a chystadlaethau[golygu | golygu cod]

Dynion yn dawnsio dabke

Mae cystadlaethau neu sioeau Dabke yn cynnwys gwahanol ddawnsfeydd diwylliannol a cwmnïau amrywiol yn perfformio dabke. Er enghraifft, mae'r International Fiesta, gŵyl adnabyddus yn y Brifysgol yn Buffalo (Efrog Newydd), yn cynnwys cyfres o chwnïau sy'n perfformio eu dawnsiau diwylliannol. Mae'r gystadleuaeth hon yn digwydd bob semester yn theatr prif lwyfan Canolfan y Celfyddydau UB yn ystod y gwanwyn, fel arfer ar ddiwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth. Mae hyn yn caniatáu i Sefydliad y Myfyrwyr Arabaidd gymryd rhan a chodi ymwybyddiaeth ddiwylliannol o'r dabke .

Mae llawer o brifysgolion yn cynnal digwyddiadau o'r enw Noson Arabaidd neu deitl i'r perwyl hwnnw. Pan fydd y sioeau hyn yn digwydd, mae dabke naill ai'n cael ei berfformio ar lwyfan (y tu mewn neu'r tu allan), mewn neuadd ar y llawr, neu y tu allan ar y llawr. Mae yna wahanol gamau sy'n cynnwys y ddawns Dabke: y belbel, yr inzel, shemmel a'r taxi; mae cyfuniad o bob un o'r camau hyn yn ogystal â neidio a throi achlysurol yn gwneud y ddawns yn gyflawn.[10]

Yn America, nid yw'r traddodiad wedi'i golli ac fe'i cynhelir yn yr un lleoedd ag y byddai yn y famwlad wreiddiol ac mae'r gerddoriaeth ddawns hefyd yn cael ei chwarae'n gyffredin yn America mewn canolfannau diwylliannol a chonfensiynau Arabaidd-gymunedol fel y confensiwn blynyddol a gynhelir gan y Ffederasiwn Americanaidd Palestina Ramallah.

Record y byd[golygu | golygu cod]

Ym mis Awst 2011, gosododd grŵp mewn pentref Libanus, Dhour El Choueir, record byd newydd. Wedi'i drefnu gan Ŵyl Haf Dhour El Choueir, gwnaed cadwyn ddynol o 5,050 ac ar hyn o bryd mae'n dal record y byd.[11]

Galeri Fideo[golygu | golygu cod]

Merched Libanus yn dawnsio Dabke
Grŵp yn dawnsio Dabke ar stryd ym Manceinion.
Perfformwyr dawnsio Dabke yn Theatr UNESCO Libanus.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Adra, Najwa. "Dwyrain Canol" Gwyddoniadur Rhyngwladol Dawns. Gol. Selma Jeanne Cohen a'r Dance Perspectives Foundation. Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2003. Prifysgol Georgetown. 3 Rhagfyr 2010
  • Cohen, Dalia; Katz, Ruth (2006). Palestinian Arab music: a Maqām tradition in practice (arg. Illustrated, annotated). University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-11299-2.978-0-226-11299-2
  • Kaschl, Elke. Dawns a Dilysrwydd yn Israel a Palestina: Perfformio'r Genedl . Leiden & Boston, MA: Brill; 2003.
  • Ladkani, Jennifer. "Cerddoriaeth a Dawns Dabke a Phrofiad Ffoaduriaid Palestina: Ar y Tu Allan yn edrych i mewn." Ph.D. traethawd hir, Prifysgol Talaith Florida, 2001.
  • McDonald, David A. "Barddoniaeth a Pherfformiad Trais yn Israel / Palestina." Ethnomusicology . 53: 1, Gaeaf 2009.
  • Rowe, Nicholas. "Dawns a Chredadwyedd Gwleidyddol: Priodoli Dabkeh gan Seioniaeth, Pan-Arabiaeth, a Chenedlaetholdeb Palestina." Cyfnodolyn y Dwyrain Canol, 65.3 (2011): 363–80. Haf 2011. Gwe. 20 Mawrth 2012. Argraffu.
  • Rowe, Nicholas. “Codi Llwch: Hanes Diwylliannol Dawns ym Mhalestina.” Cyhoeddwr Llundain ; Efrog Newydd, NY : IB Tauris ; Efrog Newydd, NY : Palgrave Macmillan, 2010.
  • Handelsman, JoEllen. 3, Steiliau Dawns y Dwyrain Canol. “Llyfr Gwaith Dawns Ger a Dwyrain Canol.” 2il arg. Tucson: Ffynhonnell Premiwm, 2012. 7. Argraffu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "ARAB FOLK DANCE with KARIM NAGI". www.karimnagi.com. Cyrchwyd 2021-08-08.
  2. * Veal, Michael E.; Kim, E. Tammy (2016). Punk Ethnography: Artists & Scholars Listen to Sublime Frequencies (yn Saesneg). Wesleyan University Press. ISBN 9780819576545.
  3. "Turns out the dabke is an Israeli dance, according to The New York Times". Mondoweiss (yn Saesneg). 2013-08-04. Cyrchwyd 2021-08-08.
  4. Cohen, Dalia; Katz, Ruth (2006-01-16). Palestinian Arab Music: A Maqam Tradition in Practice (yn Saesneg). University of Chicago Press. ISBN 978-0-226-11298-5.
  5. 5.0 5.1 The Arab World (yn Saesneg). Arab Information Center. 1962.
  6. Kaschl, Elke (2003-01-01). Dance and Authenticity in Israel and Palestine: Performing the Nation (yn Saesneg). BRILL. ISBN 978-90-04-13238-2.
  7. Morris, Gay; Giersdorf, Jens Richard (2016). Choreographies of 21st Century Wars (yn Saesneg). Oxford University Press. ISBN 978-0-19-020166-1.
  8. Cohen, Katz, 2006, pp. 271–274.
  9. Badley, Bill and Zein al Jundi. "Europe Meets Asia". 2000. In Broughton, Simon and Ellingham, Mark with McConnachie, James and Duane, Orla (Ed.), World Music, Vol. 1: Africa, Europe and the Middle East, pp 391–395. Rough Guides Ltd, Penguin Books. ISBN 1-85828-636-0
  10. "News briefs". ArabAmericanNews (yn Saesneg). 2009-01-10. Cyrchwyd 2021-08-08.
  11. "Largest dabke dance". Guinness World Records (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-08.