Cytiau Tŷ Mawr
| Math | heneb gofrestredig, safle archaeolegol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3054°N 4.6838°W |
| Cod OS | SH212820 |
| Rheolir gan | Cadw |
| Cyfnod daearegol | Prydain gynhanesyddol |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | AN016 |
Safle archaeolegol yw Cytiau Tŷ Mawr, a elwir hefyd yn Grŵp Cytiau Mynydd Twr neu Cytiau'r Gwyddelod, lle ceir olion nifer o dai crwn o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig ac a leolir ar Fynydd Tŵr gerllaw Caergybi, Ynys Môn.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Ceir gweddillion 10 o dai crwn o faint sylweddol, tua 7m ar draws, ar hyd y llethr, gydag olion adeiladau llai, petrual. Mae llawr rhai o'r adeiladau petrual yn is na lefel y ddaear, a grisiau yn mynd i lawr iddynt.[1]


Bu cloddio archaeolegol yma gan W.O. Stanley yn 1862-8, a bu cloddio eto yn 1978-82. Darganfuwyd ar y safle dystiolaeth fod pobl wedi byw yma am gyfnod maith, yn dechrau yn y cyfnod Mesolithig a thrwy'r cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Mae'r adeiladau a welir ar y safle yn dyddio o Oes yr Haearn, a pharhawyd i'w defnyddio hyd y 6g.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)

