Cytûn

Oddi ar Wicipedia

Cytûn[1] (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) yw'r corff ymbarél ar gyfer prif enwadau Cristnogol Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd Cytûn yn 1990 yn dilyn Cynhadledd Swanwick yn 1988. Yn y gynhadledd hon fe gytunodd prif eglwysi gwledydd Prydain ac Iwerddon ar y pryd i ffurfio offeryn ecwmenaidd newydd ymhob un o'r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, yr Alban a'r Iwerddon), a hefyd offeryn ar wahân i gwmpasu'r pedair cenedl. Pwysleisiwyd mai 'offeryn' i'r aelod eglwysi gydweithio fyddai'r rhain yn hytrach na 'Chyngor Eglwysig' fyddai'n gallu gweithredu yn ei awdurdod ei hun, fel yr hen Gyngor Eglwysi Cymru (1956-1990). Roedd y newid hwn yn rheidrwydd er mwyn croesawu'r Eglwys Gatholig Rufeinig a hefyd rhai enwadau o'r traddodiad Pentecostaidd yn aelodau.

O'r cychwyn fe fu Cytûn yn gweithio'n arbennig mewn dau faes, sef materion cyhoeddus a chyd-berthynas yr eglwysi eu hunain. Yn yr 21ain ganrif fe ychwanegwyd trydydd maes, sef cyd-lynu presenoldeb yr aelod eglwysi a mudiadau ar feysydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sioe Frenhinol Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae Cytûn hefyd yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyngor Rhyng-ffydd Cymru[2], ac yn cyd-lynu cynrychiolaeth yr holl grefyddau ar Fforwm Cymunedau Ffydd Cymru[3] a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.[4]

Aelodau[golygu | golygu cod]

Mae yna 14 o enwadau yn gyflawn aelodau, sef:

Undeb Bedyddwyr Cymru[5]

Cymanfa Bedyddwyr De Cymru[6]

Yr Eglwys Fethodistaidd[7]

Yr Eglwys yng Nghymru[8]

Yr Eglwys Lutheraidd Almaeneg ei Hiaith[9]

Byddin yr Iachawdwriaeth[10]

Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig[11]

Yr Eglwys Gatholig Rufeinig[12][13][14]

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg[15]

Y Gynghrair Gynulleidfaol[16]

Eglwys Bresbyteraidd Cymru[17]

Eglwys Uniongred yr India[18]

The Church of Pentecost - UK (adran Caerdydd)[19]

Cymdeithas y Cyfeillion[20] (Crynwyr)

Mae pedwar enwad arall yn aelodau 'Categori B', hynny yw yn arddel cysylltiad â Cytûn heb ddymuno bod yn aelodau cyflawn:

Eglwys Adfentiaid y Seithfed Dydd yng Nghymru[21]

Eglwys Bresbyteraidd De Corea yng Nghymru (heb wefan)

Eglwys Uniongred Ethiopia[22]

Mae yna nifer o fudiadau Cristnogol eraill sy'n gweithio yng Nghymru hefyd yn aelodau 'Categori B'.

Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru - sef pump o aelod eglwysi Cytûn sydd wedi ymrwymo i geisio undod llawnach[23]

Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru - sef naw o aelod eglwysi Cytûn o'r traddodiad Anghydffurfiol[24]

Cymorth Cristnogol

Cymdeithas Dai Aelwyd[25]

Drwy'r To[22]

Cymdeithas y Beibl[26]

Cymdeithas y Plant[27]

Cyngor Ysgolion Sul Cymru[28]

CACEC (Y Ganolfan Addysg Gristnogol i Oedolion)[29]

Embrace the Middle East[30]

Housing Justice[31]

Safer Families for Children[32]

Siop Lyfrau Eglwysi Ynghyd, Caerdydd[33]

A Rocha (EglwysEcolegol)[34]

Y Stafell Fyw[35]

Mae'r enwadau sy'n gyflawn aelodau yn llywio polisi a gwaith Cytûn yn y meysydd hynny lle maent am gydweithio ac yn ethol Ymddiriedolwyr Elusennol Cytûn. Mae gan bob enwad a mudiad sy'n aelod Categori A neu Gategori B ran yn y gwaith drwy'r Grŵp Galluogi sy'n cyfarfod dwywaith y flwyddyn.

Staff[golygu | golygu cod]

Mae gan Cytûn bedwar aelod o staff, ynghyd ag un aelod o staff enwadol a secondir i Cytûn am rai oriau bob mis.

Prif Weithredwr - y Parch. Ganon Aled Edwards

Hwylusydd Ffydd, Trefn a Thystiolaeth - i'w benodi

Swyddog Polisi'r Cynulliad Cenedlaethol - y Parch. Gethin Rhys

Rheolydd Swyddfa a Chynorthwy-ydd Personol y Prif Weithredwr - Mrs Sasha Perriam

Swyddog wedi'i secondio gan yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig - y Parch. Sally Thomas

  1. [www.cytun.cymru "Cytun"] Check |url= value (help). Cytun. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  2. "Rhyng-ffydd Cymru". Rhyng-ffydd Cymru. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)[dolen marw]
  3. "Fforwm Cymunedau Ffydd". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 28/09/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector". WCVA. 25.01.18. Cyrchwyd 25.01.18. Check date values in: |access-date=, |date= (help)[dolen marw]
  5. [www.buw.org.uk/cy/ "Undeb Bedyddwyr Cymru"] Check |url= value (help).
  6. "Cymanfa Bedyddwyr De Cymru (Saesneg yn unig)".
  7. "Yr Eglwys Fethodistaidd Synod Cymru".
  8. [cym.eglwysyngnghymru.org.uk/ "Yr Eglwys yng Nghymru"] Check |url= value (help).
  9. "Evangelische Synode Deutscher Sprache in Großbritannien (Almaeneg a Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-21. line feed character in |title= at position 38 (help)
  10. "Byddin yr Iachawdwriaeth (Saesneg yn unig)".
  11. "Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig Synod Cymru".
  12. "Archesgobaeth Caerdydd (Saesneg yn unig)".
  13. [www.menevia.org/ "Esgobaeth Mynyw (Saesneg yn unig)"] Check |url= value (help).
  14. [www.wrexhamdiocese.org.uk/ "Esgobaeth Wrecsam (Saesneg yn unig)"] Check |url= value (help).
  15. "Undeb yr Annibynwyr Cymraeg".
  16. [www.cfwales.org.uk/ "Y Gynghrair Gynulleidfaol yng Nghymru"] Check |url= value (help).
  17. [www.ebcpcw.cymru/cym "Eglwys Bresbyteraidd Cymru"] Check |url= value (help).
  18. [www.stmarysindianorthodoxchurchbristol.com/ "Eglwys Uniongred y Santes Fair, Bryste (Saesneg yn unig)"] Check |url= value (help).
  19. "Church of Pentecost UK (Adran Caerdydd) (Saesneg yn unig)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-15.
  20. [www.quaker.org.uk/ "Cymdeithas y Cyfeillion y DU (Saesneg yn unig)"] Check |url= value (help).
  21. "Eglwys Adfentiaid y Seithfed Dydd DU". 22/02/2018. Check date values in: |date= (help)
  22. 22.0 22.1 "Drwy'r To".
  23. [www.cytun.cymru/eglwysicyfamodol.htm "Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol yng Nghymru"] Check |url= value (help).
  24. [www.cytun.cymru/rhydd.html "Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru"] Check |url= value (help).
  25. [www.aelwyd.co.uk/ "Cymdeithas Dai Aelwyd"] Check |url= value (help).
  26. "Byw y Beibl".
  27. "Cymdeithas y Plant".
  28. [ysgolsul.com/ "Cyhgor Ysgolion Sul a Cyhoeddiadau'r Gair"] Check |url= value (help).
  29. "CACEC".
  30. "Embrace the Middle East".
  31. [www.fiah.org.uk "Housing Justice Cymru"] Check |url= value (help).
  32. "Safer Families for Children".
  33. "Siop Lyfrau Eglwysi Ynghyd Caerdydd".
  34. [arocha.org.uk/ "A Rocha UK"] Check |url= value (help).
  35. "Stafell Fyw Caerdydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-13.