Cysyniad a gwrthrych
Gwedd
Mewn athroniaeth iaith, priodolir y gwahaniaeth rhwng cysyniad a gwrthrych i'r athronydd Almaenig Gottlob Frege.
Yn ôl Frege, mae unrhyw frawddeg sy'n mynegi syniad unigol yn cynnwys mynegiant (enw priod neu derm cyffredinol gyda'r fannod amhenodol) sy'n dynodi Gwrthrych gyda phriodoledd (y cyplad "yn", a therm cyffredinol gyda'r fannod amhenodol neu ansoddair) Cysyniad. Felly mae "Mae Socrates yn athronydd" yn cynnwys "Socrates", sy'n cynrychioli'r Gwrthrych Socrates, a "Mae ...yn athronydd", sy'n dynodi'r Cysyniad o fod yn athronydd.