Cynllun Darien

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cynllun i sefydlu gwladfa Albanaidd yng Nghanolbarth America ar droad y 18g oedd Cynllun Darien.

Hanes y fenter[golygu | golygu cod y dudalen]

Syniad William Paterson – un o sefydlwyr Banc Lloegr[1] - oedd Cynllun Darien. Soniodd am sefydlu gwladfa Albanaidd ym Mhanama er mwyn manteisio ar fasnach rhwng y Cefnfor Tawel a Chefnor yr Iwerydd. Roedd wedi cyfarfod â'r morwr Lionel Wafer yn Llundain ac wedi clywed ganddo am "baradwys" o le ar guldir Panama gyda bae cysgodol, brodorion cyfeillgar a thir ffrwythlon.[2]

Ffurfiwyd Cwmni Albanaidd Masnachu i Affrica a'r India Gorllewinol ym Mehefin 1695. Codiwyd £400,000 mewn chwe mis, a defnyddiwyd yr arian i baratoi pum llong[2], y Caledonia, St Andrew, Unicorn, Dolphin a'r Endeavour[3] ar gyfer y fenter. Ymadawodd y llongau o borthladd Leith yn yr Alban ar y 4ydd o Orffennaf, 1698 gyda 1200 o gyfaneddwyr, gan gynnwys Paterson, ei wraig a'u mab. Bu farw ei wraig a'i fab yn ystod y fenter.[3] Yr arweinydd ar y daith oedd Capten Robert Pennecuik. Cyrhaeddon nhw Darien ar yr 2il o Dachwedd; bu farw 70 ar y daith. Enwyd y safle 'New Caledonia' ("Yr Alban Newydd"), ond doedd o ddim yn addas; erbyn Mawrth 1699, roedd dros 200 wedi marw. Sefydlwyd 'New Edinburgh' ("Caeredin Newydd") wedyn, ond darganfuwyd bod y tir yn anaddas i amaethyddiaeth a doedd gan y brodorion ddim diddordeb yn nwyddau'r Albanwyr. Darganfuwyd hefyd bod na chaniatawyd llongau Seisnig na gwladfeydd Seisnig i fasnachu efo'r Albanwyr. Cipiwyd y Dolphin gan Sbaenwyr. Daeth newyddion y bwriadodd y Sbaenwyr ymosod ar y wladfa, a ffodd yr Albanwyr yn ôl i'r Alban,[2] gan ymweld â Jamaica ac Efrog Newydd ar y fordaith adref. Ni chyrhaeddodd ond y Caledonia adref i'r Alban,[3] gyda 300 o bobl.[2].

Yn Awst 1699, cychwynodd ail lynges o'r Alban, yn gwybod dim byd am dynged y cyrch cyntaf. Aeth tair llong, un ohonynt y Rising Sun', yn cludo 1302 o ymsefydlwyr. Bu farw 160 ar y daith. Darganfuant anheddiad gwag, a dechreuwyd ailadeiladu.[2]

Roedd bygythiad o ymosodiad gan y Sbaenwyr, a threfnwyd rhagymosodiad gan Alexander Campbell o Fonab. Roedd hynny'n llwyddiannus, ond y canlyniad oedd bod y Sbaenwyr yn gwarchae ar Gaer Sant Andreas. Ildiodd yr ymsefydlwyr ym Mawrth 1700. Caniatawyd iddynt adael, ond ni chyrhaeddodd ond ychydig adref.[2]

Adladd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y fenter yn drychineb ariannol i'r Alban. Collwyd dros £230,000 gan bobl yr Alban. Saith mlynedd ar ôl y fenter, daeth yr Alban yn rhan o Deyrnas Prydain Fawr oherwydd Deddf Uno 1707. Rhoddwyd £398,000 i'r Alban gan Loegr, y mwyafrif i dalu colled Cwmni'r Alban.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]