Cymal synofaidd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymal synofaidd
Synovial Joint cy.svg
Data cyffredinol
Dynodwyr
Freebase /M/02pt_x edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF 40733 edit this on wikidata
Arall
Commons page Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cymal synofaidd, a elwir hefyd yn diarthrosis, yn ymuno'r esgyrn â chapsiwl cymal ffibrog. Dyma'r math mwyaf cyffredin a mwyaf symudol o gymal yng nghorff mamal. Fel gyda'r rhan fwyaf o gymalau eraill, mae cymalau synofaidd yn cyflawni symudiad wrth bwynt cyswllt yr esgyrn ymgymalu.

Strwythur[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cymal yw man lle mae dau neu fwy o esgyrn yn cyfarfod. Mae esgyrn wedi’u cysylltu o amgylch y cymal.[1]
  • Mae meinweoedd cysylltiol yn cynnwys gewynnau, cartilag a thendonau.
  • Mae gewynnau’n dal y cymal gyda’i gilydd sy’n rhoi sefydlogrwydd i gymalau.
  • Mae cartilag ar bennau’r esgyrn a lle mae cymalau’n cyfarfod.
  • Mae tendonau’n cysylltu cyhyrau â’r sgerbwd.

Mathau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwahanol fathau o gymalau synofaidd yn galluogi symudiadau i wahanol raddau, maent yn cynnwys:

  • Colfach - y benelin a’r pen-glin. Mae cymalau colfach yn eich galluogi i symud y benelin a’r pen-glin mewn un cyfeiriad yn unig. Maen nhw’n galluogi’r cymal i gael ei blygu a’i estyn.
  • Pelen a chrau - yn yr ysgwydd a’r glun ac yn galluogi symudiad ym mhob cyfeiriad bron iawn. Mewn cymal pelen a chrau, mae ochr crwn un asgwrn (pêl) yn ffitio ym mhant bach crwn asgwrn arall (crau).
  • Colynnog - yn y gwddf, rhwng y ddau fertebra uchaf. Mae’n galluogi symudiad cylchdro yn unig, fel symud eich pen o un ochr i’r llall.[1]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Ffisioleg Ymarfer Corff', adnodd dysgu ar wefan CBAC. Mae gan testun y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.