Cylchgrawn
Enghraifft o'r canlynol | type of publication, type of mass media |
---|---|
Math | cyfnodolyn, cyfrwng cyfathrebu, y cyfryngau torfol, print-native publication |
Yn cynnwys | magazine cover |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyhoeddiad sy'n dod allan fel arfer yn rheolaidd (ynwythnosol neu'n fisol), ac sy'n cynnwys ystod o bynciau gan fwy nag un awdur yw cylchgrawn. Mae'r gost o'i gynhyrchu fek arfer yn dod o bris y gwerthiant a'r hysbysebion, neu gan nawdd cyhoeddus.[1]
Yr cylchgrawn cyntaf i'w argraffu oedd y Erbauliche Monaths Unterredungen, a oedd yn ymwneud â llenyddiaeth ac athroniaeth ac a werthwyd yn yr Almaen yn 1663.[2] Y cylchgrawn cyntaf a oedd yn ymwneud â diddordebau cyffredinol oedd The Gentleman's Magazine, a argraffwyd yn Llundain yn 1731 ac a olygwyd gan Edward Cave, dan y ffugenw "Sylvanus Urban", ac ef a fathodd y term Saesneg magazine.[3]
Cylchgronau yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Y cylchgrawn hynaf i gael ei gyhoeddi, sy'n para i gael ei gyhoeddi heddiw, (a hynny mewn unrhyw iaith yn y byd) ydy'r Gwyliedydd sef cylchgrawn y mudiad Wesleaidd.[4]
Mae cylchgronau o bob math wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru ers diwedd y 18g. Un o'r cynharaf oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth, chwarterolyn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794. Cofnodir y gair "cylchgrawn" ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794).
Roedd cylchronau Cymraeg y 19g yn tueddu i fod naill ai'n ymwneud â llenyddiaeth a hynafiaethau Cymru neu'n gyhoeddiadau crefyddol enwadol. Enghraifft dda o'r cyntaf yw Y Greal. Ond roedd hyd yn oed y cylchgronau enwadol yn cynnwys pytiau o newyddion a oedd bron yr unig ffynhonnell am ddigwyddiau'r dydd i'r werin bobl am gyfnod.
Bu rhaid aros yn hir i gael deunydd tebyg i'r cylchgronau amrywiol a gyhoeddid mewn gwledydd eraill yn y Gymraeg. Yn Lloegr roedd cylchgronau dychanol fel Punch yn hynod poblogaidd, er enghraifft, ac er y cafwyd fersiwn Cymraeg ni pharhaodd am hir.
I gryn raddau, llenyddiaeth sy'n dominyddu hanes y cylchgrawn yn yr 20g yng Nghymru. Gellid nodi Y Llenor a Taliesin. Digideiddiwyd llawer o gylchgronau Cymraeg a Chymreig gan y Llyfrgell Genedlaethol mewn prosiect a elwir yn Cylchgronau Cymru Ar-lein.
Cylchgronau Cymraeg yn 2011
[golygu | golygu cod]Cylchgrawn | Lleiafswm Gwerthiant | Rhifynnau mewn blwyddyn | Grant Blynyddol (£) | Cyfanswm y copiau a werthir mewn blwyddyn |
Grant y copi a brynnir (£) |
---|---|---|---|---|---|
Y Cymro | 2,500 | 52 | £18,000 | 130,000 | £0.07 |
Barn | 1,000 | 10 | £80,000 | 10,000 | £8.00 |
Golwg | 2,500 | 50 | £73,000 | 125,000 | £0.60 |
Barddas | 500 | 4 | £24,000 | 2,000 | £12.00 |
Cristion | 1,000 | 6 | £4,8000 | 6,000 | £0.80 |
Gair y Dydd | 500 | 4 | £2,400 | 2,000 | £1.20 |
Taliesin | 500 | 3 | £28,500 | 1,500 | £19.00 |
2012 - 2016
[golygu | golygu cod]- Barddas £24,000
- Barn £80,000
- CIP £26,000
- Cristion £4,800
- Fferm a Thyddyn £2,000
- Gair y Dydd £2,400
- Golwg £73,000
- Lingo Newydd £18,000
- Llafar Gwlad £7,000
- Taliesin £28,500
- WCW £36,000
- Y Cymro £18,000
- Y Neuadd £6,000
- Y Selar £12,000
- Y Traethodydd £8,000
- Y Wawr £10,000
2016-2021
[golygu | golygu cod]Yn 2016 dosbarthwyd tua 29 o gylchgronau o Gymru yn Gymraeg ac yn Saesneg (am Gymru) i'r siopau trwy Ganolfan Ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau. Mae rhain yn cynnwys: Barddas, Barn, Bore Da, Cambria, Cip, Cristion, Cylchgrawn Efengylaidd, Cymru a'r Môr, Fferm a Thyddyn, Gair y Dydd, Iaw, Lingo Newydd, Lol, Llafar Gwlad, Natur Cymru / The Nature of Wales, Y Naturiaethwr, New Welsh Reader (NWR), Ninnau, Planet, Poetry Wales, WCW, Welsh Country, Welsh Football, Welsh History Review, Y Casglwr, Y Faner Newydd, Y Gwyliedydd, Y Traethodydd, Y Wawr a'r Enfys.[6]
Mae papurau wythnosol a gyhoeddir gan yr enwadau crefyddol hefyd i'w cael a darperir gwasanaeth newyddion ar-lein Cymraeg Cymru Fyw gan y BBC a Golwg 360 gan gwmni Golwg Newydd Cyf.
Daeth Taliesin i ben yng ngwanwyn 2016 a disgwylir rhifyn cyntaf cylchgrawn llenyddol newydd o'r enw O'r Pedwar Gwynt ym mis Awst 2016 dan olygyddiaeth Sioned Puw Rowlands ac Owen Martell. Bydd comic newydd i blant hŷn hefyd yn ymddangos ym mis Mai 2016 wedi ei greu gan y cartwnydd Huw Aaron ac yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.
Yn 2016 cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau Cymraeg y bydd y cylchgronau canlynol yn derbyn nawdd am y cyfnod 2016-1, tra pery nawdd Llwodraeth Cymru:
- Barddas £24,000
- Barn £80,000
- Cristion £4,800
- Golwg £73,000
- Lingo £18,000
- Y Cymro £18,000
- Y Wawr £10,000
- CIP £27,500
- Mellten £14,000
- Fferm a Thyddyn £1,500
- Llafar Gwlad £7,000
- Melin £5,000
- WCW £30,000
- Y Selar £10,000
- Y Traethodydd £6,000
- Cyfanswm: £391,446
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Magazine Publisher.com's Magazine Startup Guide". Magazine Publisher. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-25. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2012.
- ↑ "History of magazines". Magazine Designing. 26 Mawrth 2013. Cyrchwyd 10 Hydref 2013.
- ↑ OED, s.v. "Magazine", and "Magazine - A Dictionary of the English Language - Samuel Johnson - 1755". johnsonsdictionaryonline.com.
- ↑ Y Gwyliedydd ar "Google books"
- ↑ Golwg; Cyfrol 24, Rhif 13, 24 Tachwedd 2011.
- ↑ Cyhoeddi Grantiau i Gylchgronau Cymraeg ar gyfer 2016–2019 - 14 Medi 2015. Archifwyd 2021-03-08 yn y Peiriant Wayback adalwyd 01 Mawrth 2016