Cyflafan Christchurch

Oddi ar Wicipedia
Cyflafan Christchurch
Enghraifft o'r canlynolymosodiad terfysgol, llofruddiaeth torfol, livestreamed crime Edit this on Wikidata
Dyddiad15 Mawrth 2019 Edit this on Wikidata
Lladdwyd51 Edit this on Wikidata
LleoliadChristchurch, Canterbury Region, Al Noor Mosque, Linwood Islamic Centre Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethSeland Newydd Edit this on Wikidata
RhanbarthChristchurch City Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymosodiad terfysgol yn erbyn Mwslimiaid oedd cyflafan Christchurch a darodd dau fosg yn ninas Christchurch, Seland Newydd, ar 15 Mawrth 2019. Saethwyd 50 o bobl yn farw gan ddyn arfog oedd yn arddel goruchafiaeth y gwynion ac ideoleg wrth-Islamaidd.[1][2]

Bu farw 42 o addolwyr ym Mosg Al Noor a'r ardal o'i amgylch ym maestref Riccarton yn ystod gweddi'r Gwener. Defnyddiodd yr ymosodwr ddrylliau lled-awtomatig, ac roedd ganddo sawl arf arall yn ei gar. Dechreuodd yr ymosodiad tua 13:40 (Amser Haf Seland Newydd) a barodd tua chwe munud cyn i'r llofrudd yrru i Ganolfan Islamaidd Linwood, rhyw 5 km i ffwrdd, a saethwyd 7 yn farw yn y mosg hwnnw.[3] Cafodd yr ymosodwr ei wrthsefyll gan Abdul Aziz, a lwyddodd i hel y dyn ymaith a chipio'i wn haels.[4] Ym Mosg Al Noor, ceisiodd Naeem Rashid daclo'r ymosodwr, ond cafodd ei saethu a bu farw ef yn ddiweddarach yn yr ysbyty.[5]

Cyhuddir dinesydd Awstralaidd 28 oed o'r enw Brenton Tarrant o gyflawni'r troseddau.[6] Cafodd yr ymosodiad ym Mosg Al Noor ei ffrydio'n fyw drwy gyfrwng Facebook Live gan ddefnyddio camera ar ben yr ymosodwr, a chyhoeddwyd maniffesto ar-lein a briodolir iddo.[7]

Profiad Cymraes[golygu | golygu cod]

Yn ôl Cymraes oedd yn y ddinas, Elliw Alaw Watts, roedd y gyflafan yn "erchyll" . Ategodd ""Mae jest yn ofnadwy meddwl bo rhwbath felly 'di digwydd mewn dinas ddistaw fel hyn."[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47582534
  2. (Saesneg) "Mosque shooter brandished material glorifying Serb nationalism", Al Jazeera (15 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.
  3. (Saesneg) "Christchurch mosque terrorist shootings: What you need to know", Stuff.co.nz (16 Mawrth 2019). Adalwyd ar 17 Mawrth 2019.
  4. (Saesneg) "Christchurch mosque shootings: He ran towards the gunman armed only with a credit card machine", The New Zealand Herald (17 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.
  5. (Saesneg) "Trapped in Christchurch Mosque, Worshiper Attempted to Disarm Shooter", The Wall Street Journal (16 Mawrth 2019). Adalwyd ar 19 Mawrth 2019.
  6. "Christchurch: cyhuddo dyn, 28, o lofruddio", Golwg360 (16 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.
  7. (Saesneg) "Christchurch mosque shootings: Gunman livestreamed 17 minutes of shooting terror", The New Zealand Herald (15 Mawrth 2019). Adalwyd ar 16 Mawrth 2019.