Cyfeirgi Gwyddelig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cyfeirgi Gwyddelig

Cyfeirgi sy'n tarddu o Iwerddon yw'r Cyfeirgi Gwyddelig.[1] Datblygwyd ar ddechrau'r 18g, yn debyg o dras y Cyfeirgi Seisnig, Cyfeirgi Gordon, y sbaengi, a'r ci marcio.[2]

Mae ganddo daldra o 63.5 i 69 cm (25 i 27 modfedd) ac yn pwyso 27 i 32 kg (60 o 70 o bwysau). Mae ganddo gôt loyw, syth a gwastad gyda blew hir ar y clustiau, y coesau, y frest, y bol a'r gynffon, ac o liw coch a gwyn yn wreiddiol ond heddiw yn amlach yn lliw mahogani neu liw castan. Ci deallus a da ei dymer a chyflym wrth ei waith yw'r Cyfeirgi Gwyddelig.[2]

Bus Éireann[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r cyfeirgi Gwyddelig yn gweithredu fel logo ar gyfer gwasnaethau fysiau cenedlaethol Iwerddon, sef Bus Éireannn. Mabwysiadwyd y ci eiconig fel logo pan sefydlwyd y gwasanaeth newydd yn 1987.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Geiriadur yr Academi, [Irish].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Irish setter. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2014.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Dog template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.