Cwrasao
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Gwirodlyn a flesir gyda chroen sych y ffrwyth sitrws laraha, sy'n fath o oren chwerw a dyfir ar ynys Curaçao, yw cwrasao.[1] Gwneir cwrasao yn bennaf yn Ffrainc a'r Iseldiroedd, ac mewn nifer o liwiau ac amrywiadau megis triple sec. Mae gan y gwirodlyn hwn gynnwys alcohol o 40%. Defnyddir mewn coctels megis y coctel cwrasao: ¾ mesur o chwisgi Albanaidd, ½ mesur o sudd lemwn, a ¼ mesur o gwrasao gwyn, ysgydwer dros iâ, a hidler i wydryn coctel.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [curaçao].
- ↑ Graham a Sue Edwards. The Dictionary of Drink (Stroud, Alan Sutton, 1991), t. 335.