Triple sec
Jump to navigation
Jump to search
Amrywiad ar wirodlyn cwrasao yw triple sec. Mae'n glaear neu weithiau'n lliw oren, yn lle cwrasao arferol sy'n lliw glas, ac yn blasu'n fwy sych a chryf na chwrasao. Fe'i wneir gan nifer o gwmnïau, gan gynnwys Bols.[1] Amrywia ei gynnwys alcohol o 15% i 40%.
Gellir ei yfed ar ei ben ei hun, ond erbyn hyn caiff ei yfed yn amlach mewn coctelau, fel y Margarita, White Lady, a'r Cosmopolitan.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Graham a Sue Edwards. The Dictionary of Drink (Stroud, Alan Sutton, 1991), t. 335.