C.P.D. Celtic Cwmbrân
Enw llawn | Cwmbran Celtic Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | The Celts | ||
Sefydlwyd | 1925 | ||
Maes | Celtic Park, Cwmbran NP44 3YS (sy'n dal: 400) | ||
Cadeirydd | Scott Kinsella (gweithredol) | ||
Rheolwr | Lee Challenger | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru (Y De) | ||
2023/24 | 9. | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Clwb pêl-droed yw Cwmbrân Celtic FC. Mae wedi ei leoli yn nhref Cwmbrân,Torfaen yn yr hen sir Gwent. Mae Cwmbrân Celtic yn dîm gwahanol i glwb Tref Cwmbrân a fu'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au.
Mae'r tîm cyntaf yn chware yng Adran Un Cynghrair Cymru (Y De) (Welsh League)[1] a'r ail dîm yng nghynghrair ail dimau Cynghrair Cymru (Y De). Ceir hefyd tîm menywod sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod De Cymru, a thîm dros 45 oed sy'n chwarae yn Cynghrair Veterans Cymru.
Mae'r timau i gyd yn chwarae yn Celtic Park, Henllys Way, Cwmbrân, sydd drws nesa i Stadiwm Cwmbrân
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd y clwb yn 1925 fel CYMS (Catholic Young Men's Society)[2] gan chwarae, i gychwyn yng Nghynhrair Casnewydd a'r Cylch ('Newport & District League') ac ennill teitl Adran 2 Rhan A yn 1925–26. Rhwng 1930 a 1939 chwaraeodd y clwb yng Nghynhrair Gwent. Wedi'r Ail Ryfel Byd aeth y clwb nôl i chwarae yng Nghynghrair Casnewydd a'r Cylch gan ennill y Brif Adran yn 1950–51.
Newid Enw
[golygu | golygu cod]Yn yr 1960au cynnar newidiwyd enw'r clwb i Cwmbran Catholics ac yn 1972 newidiwyd yr enw eto i'r enw cyfredol, Cwmbran Celtic.
Maes Chwarae
[golygu | golygu cod]Prynodd y clwb ei safle ar Oak Street, Hen Gwmbran yn 1979 a dyna bencadlys y clwb. Arferai maes chwarae'r clwb fod ar Cwmbran Park ond oherwydd trafferthion draenio'r tir symudwyd y maes chwarae i feysydd y tu allan i Stadiwm Cwmbrân sy'n cael eu rhannu gyda Chlwb Criced Cwmbrân. Symudodd y clwb criced, maes o law, i Gaerleon a rhoddwyd les ar y maes i Celtic.
Cyfredol
[golygu | golygu cod]Mae Cwmbrân Celtic yn chwarae yn Adran Un Cynghrair Cymru. Dyma'r adran ar gyfer timau De Cymru sy'n bwydo fewn i Uwch Gynghrair Cymru, sef, prif adran system byramid Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dyrchafwyd y clwb i Adran Tri Cynghrair Cymru, Y De (y Welsh League) yn 2004-05. Dilyn dyrchafiad, chwaraeodd y clwb yn Adran Un am y to cyntaf yn nhymor 2010-11.
Uchafbwyntiau
[golygu | golygu cod]- 1972-73 - Ennill Cwpan Amatur Gwent, ac ail yn Prif Adran Gwent
- 1999-2000 - Ennill Cwpan Cynghrair Sir Gwent
- 2015-16 - Cyrraedd rown y chwarteri Cwpan Cymru o dan reolaeth Nicky Church. Rhediad orau'r vlwb yn y gystadleuaeth.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol Cwmbrân Celtic
- Twitter @CwmbranCeltic1
- Cynghrair Cymru (De) Archifwyd 2018-09-30 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-22. Cyrchwyd 2018-10-24.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-22. Cyrchwyd 2018-10-24.
Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19 | ||
---|---|---|
Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre | |