Curiad

Oddi ar Wicipedia
Curiad
Enghraifft o'r canlynolgwefan Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu11 Ebrill 1995 Edit this on Wikidata
SylfaenyddDafydd Tomos Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://curiad.org Edit this on Wikidata
Gofal: ceir cwmni cyhoeddi cerddoriaeth o'r un enw (curiad.co.uk)
Rhan o wefan Curiad, y wefan Gymraeg gyntaf; fersiwn Medi 1997.

Y wefan Gymraeg gyntaf oedd Curiad, gwefan a oedd (ac sy'n parhau) i ymwneud â cherddoriaeth boblogaidd. Lansiwyd y wefan gan Dafydd Tomos ar 11 Ebrill 1995[1] a chyhoeddwyd hynny ar y rhestr ebyst WELSH-L ar 13 Ebrill 1995.

Mae gwefan Curiad yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a'r siartiau Cymraeg. Roedd y wefan yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio'n uniaith Gymraeg erbyn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw wedi'i archifo.[2][3]

Ymddangosodd y wefan ar deledu am y tro cyntaf mewn eitem ar Uned 5 ar 20 Mehefin 1995.[4]

Wrth lansio'r wefan, dywedodd Dafydd Tomos:

Mae Curiad Oer yn falch o gyhoeddi fod cylchgrawn newydd Cymraeg yn cael ei lawnsio heddiw ar y We-Byd-Eang. Cylchgrawn pop (neu unrhyw fath arall o gerddoriaeth) ydi e yn y bo+n, ond mae'n cynnwys llawer o wybodaeth diddorol neu ddefnyddiol am gwmniau cyfryngol Cymru hefyd. Mae'r tudalennau yn hollol ddwyieithog... Mae Curiad yn brosiect 'llafur curiad'.[5]

Y cyd-destun[golygu | golygu cod]

Dyfeisiwyd y we fydeang gan Tim Berners-Lee a Robert Cailliau pan roeddent yn gweithio yn CERN yng Ngenefa, Y Swistir a Ffrainc yn 1989.

Roedd dau grŵp trafod wedi'u ffurfio ychydig cyn 1995: WELSH-L (Tachwedd 1992) ac yna grŵp Usenet soc.culture.welsh (21 Mawrth 1995). Lansiwyd Cwrs Cymraeg Mark Nodine ym Mehefin 1994, ond ychydig iawn o Gymraeg oedd arni. Cafwyd hefyd nifer o ddalenau unigol. Cyn datblygiad gwasanaethau masnachol i letya gwefannau, roedd y rhan fwyaf o wefannau yn cael eu cynnal ar gyfrifon myfyrwyr a staff adrannau cyfrifiadureg y prifysgolion.

Fe wnaeth nifer o 'dudalennau cartref' ymddangos - rhai yn ddim mwy na manylion cysylltu. Fe fyddai eraill yn tyfu i wefannau llawn yn hwyrach ymlaen. Fel arfer, roedd America ar y blaen ac roedd rhai ISPs masnachol yn cynnwys gofod ar y we fel rhan o'i gwasanaeth.

Dyma ddetholiad o rai unigolion oedd yn berchen ar dudalennau cartref Cymraeg yn 1994 a 1995: Illtud Daniel, Rhydychen, Geraint Jones, UCL, Rob Griffiths, Prifysgol Manceinion, Geraint Jones, Rhydychen, Geraint Edwards, Prifysgol Sheffield, Tristan Williams, Prifysgol Aberystwyth, Lynne Davies, LSHTM Llundain.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Gwe-Awê; gwefan ar ffurf cyfeirlyfr o safleoedd yn ymweneud â Chymru.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Newidiadau i Curiad. Curiad (Mehefin 1995). Adalwyd ar 2 Mai 2018.
  2. listserv.heanet.ie; adalwyd 2 Mai 2018.
  3. tiki-toki.com; adalwyd 2 Mai 2018.
  4.  Newidiadau i Curiad. Curiad (Mehefin 1995). Adalwyd ar 2 Mai 2018.
  5. listserv.heanet.ie; adalwyd 2 Mai 2018. Dyma'r cyhoeddiad cyfan yn ei grynswth:
    Mae Curiad Oer yn falch o gyhoeddi fod cylchgrawn newydd Cymraeg yn cael ei lawnsio heddiw ar y We-Byd-Eang. Cylchgrawn pop (neu unrhyw fath arall o gerddoriaeth) ydi e yn y bo+n, ond mae'n cynnwys llawer o wybodaeth diddorol neu ddefnyddiol am gwmniau cyfryngol Cymru hefyd. Mae'r tudalennau yn hollol ddwyieithog. Os oes ganddoch chi gysylltiad rhwyd rhad a chyflym, yna ewch am dro yno i weld be sy' gael. Os mai modem cartref ydych yn ei ddefnyddio, yna trowch y graffeg i ffwrdd (does dim ffeiliau anferth yno beth bynnag). Nid ydi'r wybodaeth yn gyflawn eto - megis dechrau yr ydym ni! Mi fyddai ymateb/sylwadau drwy e-bost yn dderbyniol iawn. Mae'r ffeiliau wedi ei lleoli ar gyfri William "D." Wright ym Mhrifysgol St-Andrews (does gen i ddim hawl gael tudalennau gwe :-( Diolch yn fawr i "D." am hyn. Felly ewch i'r URL isod: http://www-2nd-cs.dcs.st-andrews.ac.uk/%7Ewdw/curiad Mi ddylai eich gwe-ddarllennydd bigo fyny y ffeil 'index' yn otomatig. Os nad yw e, yna sticiwch '/index.html' ar ddiwedd yr URL uchod. Mwynhewch!