Neidio i'r cynnwys

Cronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia
Cronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, investment fund Edit this on Wikidata
Mathincentive program of the EU Edit this on Wikidata
Rhan obudget of the European Union Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEuropean Regional Development Fund, European Social Fund Plus, European Agricultural Fund for Rural Development, Cohesion Fund, European Maritime, Fisheries and Aquaculture Fund Edit this on Wikidata
Map
Rhiant sefydliadComisiwn Ewropeaidd Edit this on Wikidata
RhanbarthDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://ec.europa.eu/contracts_grants/funds_en.htm Edit this on Wikidata

Mae Cronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn un o dair cronfa ariannol yr Undeb Ewropeaidd a fwriedir, ynghyd â'r Gronfa Cydlyniant, i gefnogi rhanbarthau llai datblygedig yr UE ac ar yr un pryd ar gyfer datblygu seilwaith traws-Ewropeaidd, yn enwedig ym maes trafnidiaeth.[1]

Penwadau'r polisi

[golygu | golygu cod]

Ceir sawl gwahanol benawd ac asiantaeth i wireddu'r polisïau hyn:

  • O dan y Polisi Cyflyniant (Cohesion Policy) ceir:
    • Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (European Regional Development Fund, ERDF) wedi’i bwriadu ar gyfer datblygiad economaidd a chymdeithasol rhanbarthau lleiaf datblygedig yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ariannu seilwaith, buddsoddiadau mewn creu swyddi, prosiectau datblygu lleol a chymorth i fusnesau bach.
    • Cronfa Cyflyniant' (Cohesion Fund, CF)
    • Cronfa Gymdeithasol Ewrop (European Social Fund Plus, ESF) gyda'r nod o helpu'n bennaf ym maes polisi cyflogaeth weithredol a symudiad rhydd llafur. Mae'n cefnogi dychweliad grwpiau di-waith a difreintiedig i fywyd gwaith, yn bennaf trwy ariannu hyfforddiant galwedigaethol a'r system cymorth cyflogaeth ar gyfer y grwpiau hyn. Ceir bellach ESF+.
  • O dan y Polisi Amaeth Cyffredin (Common Agricultural Policy, CAP) ceir:
    • Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)[2]
  • O dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (Common Fisheries Policy, CFP):
    • Cronfa’r Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu Ewropeaidd (European Agricultural Fund for Rural Development, EMFAF)

Amcan Cydgyfeirio (Amcan 1 yn flaenorol)

[golygu | golygu cod]
Map yr Undeb Ewropeaidd yn ôl polisi rhanbarthol yn 2014; Coch - rhanbarthau llai datblygiedig (gan gynnwys ardal Amcan 1 Cymru; Melyn - rhanbarthau pontio; Glas - rhanbarthau mwyaf datblygiedig

Mae’r amcan hwn yn cwmpasu rhanbarthau y mae eu CMC y pen yn is na 75% o gyfartaledd yr UE a’i nod yw cyflymu eu datblygiad economaidd. Fe'i hariennir gan yr ERDF, yr ESF a'r Gronfa Cydlyniant. Y blaenoriaethau o dan yr amcan hwn yw cyfalaf dynol a ffisegol, arloesi, cymdeithas wybodaeth, yr amgylchedd ac effeithlonrwydd gweinyddol. Y gyllideb a ddyrannwyd i'r amcan hwn yw €283.3bn mewn prisiau cyfredol.

Cymru ac Amcan 1

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r 21g roedd y ffaith i Gymru fod yn ddigon tlawd i fod yn gymwys ar gyfer arian Amcan 1 yn destun gobaith y byddai modd codi cyflogaeth ac indwm yn rhanbarth eang o Gymru.[3] Roedd y rhanbarth yn cynnwys y cyfan o hen gymoedd diwydiannol y De, a Gorllewin y wlad. Er y buddsoddiad, gwelwyd bod y rhanbarth hynny'n dlotach yn 2011 na chyn hynny.[4]

Gellid gweld bod rhaglen Arfor a sefydlwyd yn 2017 ond a dderbyniodd gefnogaeth mwy strwythurol yn sgil Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru 2021 yn estyniad o nifer o dargedau Amcan 1 ond gyda pwyslais cryfach greiddiol ar y Gymraeg, a llai o arian. Mae Arfor yn gymwys ar gyfer siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion, a Sir Gearfyrddin, er bod peth dyheuad i ymestyn a i gynnwys siroedd cyfagos.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "EU Cohesion Policy: European Structural and Investment Funds supported SMEs, employment of millions of people and clean energy production". Comiwisn Ewrop. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2024.
  2. "Common Agricultural Policy". Comisiwn Ewropeaidd. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2024.
  3. "Third Time Lucky for Objective One Funding in Wales". BBC Wales. 30 Hydref 2014.
  4. "Arian Ewrop: Ardal o Gymru'n dlotach". BBC Cymru Fyw. 13 Hydref 2011.